Caws a menyn Dragon Cymru yn parhau i fod yn ddanteithion blasus i’r Scarlets

0
64
- Advertisement -

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae caws a menyn Dragon Cymru wedi bod yn cael eu gweini yng nghartref tîm rygbi’r Scarlets yn Llanelli er mwyn i gefnogwyr wledda arno. Yn ddiweddar, aeth dau o chwaraewyr y Scarlets, Callum Williams ac Eddie James, draw i’r safle cynhyrchu llaeth i adnewyddu’r bartneriaeth rhwng yr hoelion wyth hyn.

 

Gan ddefnyddio dim ond llaeth Cymreig o bob rhan o Gymru, mae Hufenfa De Arfon yn cynhyrchu detholiad y brand Dragon o gaws a menyn yn ogystal â’r detholiad Dragon Wedi’i Wneud â Llaw premiwm.

- Advertisement -

 

Cafodd y sêr ifanc, asgellwr y Scarlets Callum a’r canolwr Eddie, daith lawn o amgylch yr hufenfa ger Pwllheli, ac yna aethant i lawr yn ddwfn o dan y ddaear yn Ogofâu Llechi Llanfair lle mae’r detholiad Dragon Wedi’i Wneud â Llaw yn aeddfedu.

 

Dywedodd canolwr y Scarlets, Eddie James, “Cafodd Callum a fi ddiwrnod gwych yng ngogledd Cymru yn ymweld â’r hufenfa a’r ogofâu, a gweld â’n llygaid ein hun yr holl waith sy’n mynd i mewn i gynhyrchu’r caws arobryn. Diolch yn fawr i Gaws Dragon am eu cefnogaeth barhaus i’r bois, rydyn ni’n ei werthfawrogi’n fawr.”

 

Mae gan y cwmni cydweithredol sy’n eiddo i ffermwyr gysylltiad cryf â’r byd rygbi oherwydd fis diwethaf, lansiodd Nigel Owens, y dyfarnwr rygbi enwog, gystadleuaeth i ennill cyflenwad blwyddyn i deulu o gaws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw.

 

Ar ôl ymweliad Nigel â’r hufenfa, yn rhinwedd ei swydd newydd, dywedodd y Prif Swyddog Caws, Nigel, “Mae’n wych gweld busnes ffermio Cymreig yn ffynnu yng nghalon Cymru ac roedd yn wych gweld drosof fy hun sut mae caws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw yn cael ei wneud ac yna mynd i lawr o dan y ddaear yn yr ogofâu llechi. Nawr mae un enillydd lwcus yn mynd i dderbyn cyflenwad blwyddyn o’r caws blasus yma – Pob lwc!”

 

 

Dywedodd Kirstie Jones, Rheolwr Marchnata Hufenfa De Arfon, “Mae tîm rygbi’r Scarlets wastad wedi bod â chysylltiad digamsyniol â’r gymuned ffermio o bell ac agos. Mae’r platfform yn rhoi cynulleidfa wirioneddol unigryw i ni, a ninnau’n cyflenwi nid yn unig lletygarwch ar ddiwrnodau gemau, ond darnau i’w blasu ym mhentref y cefnogwyr, a hysbysebion ledled stadiwm Parc y Scarlets hefyd.

 

“Rydyn ni eisiau parhau a nawr adeiladu ar yr holl waith gwych a gwahodd holl gefnogwyr y Scarlets a rygbi dros y DU i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth i ennill cyflenwad blwyddyn i deulu – 250 o becynnau enfawr yn pwyso 50kg. I gystadlu ewch i’n gwefanhttps://dragonwales.co.uk/cy/cystadleuaeth/ am y manylion llawn.”

 

Ar gyfer stocwyr lleol neu i brynu cynnyrch Dragon ar-lein ewch ihttps://dragonwales.co.uk/cy/categori/gyda-llaw/  neu https://dragonwales.co.uk/cy/stocwyr/  ac am ryseitiau https://dragonwales.co.uk/cy/ryseitiau/.

- Advertisement -
Previous articleCouncillors’ Pay
Next articleTeacher Agency Costs