
Mae mainc goffa wedi’i gosod yng Nghwadrant y Fferyllfa yn Ysbyty Tywysog Philip er cof am borthor Paul Maulkin, a fu farw yn anffodus eleni.

Cododd tîm porther Paul dros £1,700 trwy gasglu arian o wahanol adrannau yn yr ysbyty i fynd tuag at brynu’r fainc a phlac er cof amdano.

Rhoddwyd arian dros ben o’r casgliad i’r uned canser y fron yn yr ysbyty trwy benderfyniad teulu Paul.

Dywedodd Owen Jenkins, porthor a phartner sifft Paul yn Ysbyty Tywysog Philip: “Hoffem estyn ddiolch mawr i unrhyw un a roddodd arian er cof am Paul. Roedd pawb mor hoff o Paul. Roedd ganddo galon fawr, ac roedden ni i gyd yn meddwl y byd ohono.

“Roedd e bob amser mor hawdd siarad â fe, pe byddech chi dan straen am unrhyw beth, bydd e bob amser yn eich gwneud i chi deimlo’n dibryder.”Gweithiodd Paul fel porthor yn Ysbyty Tywysog Philip am dros 15 mlynedd. Bydd colled fawr ar ei ôl gan gydweithwyr a ffrindiau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.


The post Mainc goffa wedi’i gosod yn Ysbyty Tywysog Philip er cof am Paul Maulkin first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.













