- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Plentyn 10 oed yn rhedeg 60km mewn wythnos ar gyfer gwasanaethau canser...

Plentyn 10 oed yn rhedeg 60km mewn wythnos ar gyfer gwasanaethau canser lleol

0
17
- Advertisement -

Rhedodd Eflyn Ames 60km mewn wythnos a chodi £810 ar gyfer Gwasanaethau Canser yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae Eflyn yn 10 oed, ac mae’n byw gyda’i mam, ei thad, ei dau frawd a’i dau gi swnllyd! Penderfynodd ymgymryd â’r her o redeg 60km mewn wythnos i gydnabod y 60,000 o bobl sy’n cael diagnosis o ganser y fron yn y DU bob blwyddyn.

Dywedodd Eflyn: “Roeddwn i’n rhedeg yn yr awyr agored yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ar y trac athletau yng Nghaerfyrddin ac ar peiriant rhedeg gartref, wedi fy mhweru gan wyau siocled dros wyliau’r Pasg.

- Advertisement -

Mae fy nani, Caroline, wedi cael ei chefnogi gan Timau Gwasanaethau Canser ers sawl blwyddyn ac mae hi bob amser wedi cael gofal da.

“Yn bennaf roedd yn hwyl, ond roedd fy nghoesau a’m traed yn brifo ac roeddwn i’n eithaf blinedig. Roeddwn i’n hoffi Mam yn rhoi siocled i mi ar y peiriant adref serch hynny. Roeddwn i’n falch iawn ohonof fy hun am fod mor benderfynol. Fe wnes i dorri fy nod codi arian a oedd yn wreiddiol yn £100. Roedd pawb mor hael, ac fe godais £810 yn y diwedd. Diolch i bawb a roddodd anogaeth i mi.

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Da iawn a diolch i Eflyn am ymgymryd â her FAWR a chodi £810 anhygoel! Rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth. Rwyt ti wir yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn lle hynny, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau bach ychwanegol hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

- Advertisement -
Previous article10-year-old runs 60km in a week for local cancer services
Next articleWWE Backlash 2026 – A Tribal Chief barely escapes A Samoan Werewolf
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content