- Advertisement -
Home Dyfed Powys Police Carcharu dynion wedi i swyddogion ddod o hyd i werth £3,345 o...

Carcharu dynion wedi i swyddogion ddod o hyd i werth £3,345 o gyffuriau mewn eiddo yng Nghaerfyrddin

0
36
- Advertisement -

Mae tri dyn wedi’u dedfrydu i gyfanswm o chwe blynedd o garchar ar ôl pledio’n euog i feddu ar gyffuriau â’r bwriad o gyflenwi.

Ddydd Mawrth 10 Mawrth 2020, gweithredodd swyddogion Tîm Plismona Achosion Difrifol Sir Gaerfyrddin Heddlu Dyfed-Powys warant gyffuriau mewn cyfeiriad yn Neuadd y Parc, Caerfyrddin.

- Advertisement -

Yno, ar ôl chwilio’r eiddo, fe wnaethon nhw arestio’r deiliad, Joshua Davies, ynghyd ag Alex Henry Davies, hefyd o Neuadd y Parc, a Joshua Evans, o Heol y Meinciau, Pont-iets.

Fe wnaeth swyddogion hefyd atafaelu cyffuriau gwerth £3,345 ar y stryd, a oedd yn cynnwys 144 gram o ganabis, 14.53 gram o gocên purdeb uchel a nifer fach o dabledi ecstasi. Yn ogystal, adenillwyd pedwar ffôn symudol, tua £400 mewn arian parod, gwn BB a chyllell hela steil Rambo.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones ei fod yn falch bod ei swyddogion wedi sicrhau erlyniad  chyfnod o garchar ar gyfer pob un o’r dynion.

“Atebodd y tri “dim sylw” yn ystod y cyfweliad a phledio’n euog mewn gwrandawiad cychwynnol, ond cynhyrchodd gwaith rhagorol y Tîm Plismona Achosion Difrifol becyn tystiolaeth na roddodd ddewis iddynt heblaw pledio’n euog yn y llys,” ychwanegodd.

“Gohiriwyd yr ymchwiliad oherwydd gwaith ffôn a fforensig helaeth, yn ogystal â’r pandemig, felly rydym yn falch o gael y canlyniad.

“Bu’r tri dyn hyn yn gysylltiedig â dosbarthu cyffuriau, sy’n lledaenu diflastod drwy ein cymunedau. Ni fydd hyn yn cael ei oddef.

“Ein neges i unrhyw un arall sy’n ystyried gwerthu cyffuriau yw y byddwn yn dod ar eich ôl a byddwch yn cael eich cosbi.”

Pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 31 Ionawr, dedfrydwyd Alex Davies i 36 mis o garchar, dedfrydwyd Joshua Davies i 21 mis o garchar, a dedfrydwyd Evans i 15 mis o garchar. 

The post Carcharu dynion wedi i swyddogion ddod o hyd i werth £3,345 o gyffuriau mewn eiddo yng Nghaerfyrddin first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleCOURT RESULT | Men jailed after officers find £3,345-worth of drugs at Carmarthen property
Next articleCarcharu dyn ar ôl ei ganfod mewn ffatri ganabis â gwerth £232,000 o blanhigion
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content