Ann Davies AS i arwain dadl yn San Steffan ar ddiogelwch tomenni glo
Heddiw (Dydd Mercher 22 Hydref) bydd AS Caerfyrddin,Ann Davies, yn arwain dadl yn San Steffan ar ddiogelwch tomenni glo a’r gwaharddiad o drwyddedau echdynnu glo newydd.
Mae dros 50% o holl domenni glo y DU yng Nghymru, er mai dim ond 8.5% o gyfanswm tir y DU yw Cymru. O’r 2,590 o domenni glo yng Nghymru, mae nifer ohonynt yn cael eu hystyried i fod yn beryglus i’r cyhoedd ac mae risg y gallai nifer fawr ddymchwel oherwydd tywydd eithafol sy’n digwydd yn amlach.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol bod angen £600m i sicrhau bod tomenni glo yng nghymoedd de Cymru yn ddiogel. Fodd bynnag, ychydig dros draean o’r swm hwnnw sydd wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth y DU a Chymru i wneud hynny.
Cyflwynodd Ann Davies AS gwestiwn ysgrifenedig i Lywodraeth y DU ym mis Mehefin 2025 ynghylch yr arian a ddyrannwyd, ac yn eu hymateb, dywedon nhw nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi gofyn am y swm llawn o £600 miliwn.
Mae Delyth Jewell AS wedi arwain dadleuon ar y mater hwn yn y Senedd a gyfrannodd at basio Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025. Bydd hyn yn sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru i sicrhau bod cymunedau sy’n byw yng nghysgod tomenni glo yn cael eu diogelu, gan ei wneud yn ofynnol i dirfeddianwyr gynnal tomenni glo ar eu tir i’w gwneud yn sefydlog.
Fodd bynnag, mae Plaid Cymru yn dadlau bod tomenni glo yn fater sy’n deillio o ddyddiau cyn datganoli, ac felly San Steffan ddylai dalu’r gost lawn. Bydd Ms Davies yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i ariannu gwaith adfer yn llawn i wneud tomenni glo yn ddiogel yng Nghymru.
Yn ei haraith yn ystod y ddadl, disgwylir i Ann Davies AS ddweud:
“Mae’r ddadl heddiw yn digwydd un diwrnod ar ôl 59fed mlwyddiant trychineb Aberfan – cwymp tomen rwbel pwll glo ym 1966 a laddodd 28 o oedolion a 116 o blant, ac a chwalodd Ysgol Gynradd Pantglas.
“Yn sgil y drychineb hwn, daeth Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) i rym gan wella sefydlogrwydd a diogelwch tomenni glo.
“Fodd bynnag, nid oedd yn mynd yn ddigon pell. Dylai hwn fod wedi bod yn drobwynt i fynd i’r afael â gwaddol peryglus pob tomen glo unwaith ac am byth, ond mae’r gwaith yn parhau’n anorffenedig. Nawr, oherwydd stormydd eithafol a achosir gan newid hinsawdd, rydym wedi profi rhagor dirlithriadau o domenni glo.
“Bu tirlithriad mawr uwchben Tylorstown yn Rhondda Fach yn 2020. Yna, ym mis Tachwedd 2024, yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, bu tirlithtiad arall a achoswyd gan law trwm o Storm Bert. Arweiniodd hyn at bob math o weddillion yn disgyn ar gymunedau gan orfodi pobl i adael eu cartrefi.
“Ni ddylai unrhyw deulu fynd i’r gwely yn ofni’r cwm o’u cwmpas — ac ni ddylai unrhyw gymuned orfod talu’r pris am esgeulustod llywodraethau’r gorffennol. Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers tro nad yw diogelwch ein tomenni glo yn fater ar gyfer yfory; mae’n fater y mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys.”
Bydd yr AS Ann Davies yn mynd ymlaen i ddweud:
“Mae’r ddadl hon yn ymwneud â chyfiawnder. Mae’n ymwneud ag urddas. Mae’n ymwneud â sicrhau nad yw pobl Cymru’n cael eu gadael i dalu’r pris—yn ariannol nac yn emosiynol—o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed genedlaethau’n ôl.
“Gadewch inni weithredu nawr, nid pan fydd y storm nesaf yn taro na phan fydd y tirlithriad nesaf yn digwydd. Gadewch inni weithredu gan mai dyma’r peth cywir i wneud, y peth cyfiawn, a gan nad yw ein cymunedau’n haeddu dim llai.
“Rhaid i’r Llywodraeth ailystyried y ffordd mae’n mynd i’r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru er mwyn cefnogi’r cymunedau sydd, ddegawdau ar ôl i’r glo diwethaf gael ei dynnu o’n dyffrynnoedd, yn dal i ysgwyddo baich y gwaddol.”














