- Advertisement -
Home More News Local News Clwb rygbi yn codi £500 ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod Sir...

Clwb rygbi yn codi £500 ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod Sir Gaerfyrddin

0
85
- Advertisement -

Cyflwynodd Paul Kirk, Trysorydd Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf, rodd o £500 i’r Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili ar ran y clwb.

Codwyd yr arian yn y gêm ‘Diwrnod Merched’ Hendy-gwyn ar Daf v Crymych o gasgliad bwced hanner amser a raffl yn y clwb. Gwnaeth y clwb rygbi gyfraniad hefyd.

- Advertisement -

Dywedodd Paul: “Mae’r Uned Gofal Arbennig Babanod yn gwneud gwaith gwych ac yn ddiweddar mae wedi gofalu am deuluoedd cyn-chwaraewyr Clwb Rygbi Hendy-gwyn, Matt, Jess a Jonathan. Boed iddynt barhau â’u gwaith hanfodol.”

Dywedodd Sandra Pegram, Rheolwr Uned Gofal Arbennig Babanod: “Rydym mor ddiolchgar am y rhodd hael hwn i’r Uned Gofal Arbennig Babanod. Bydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.

“Bydd yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i brofiad ein cleifion a’u teuluoedd. Diolch enfawr oddi wrthym ni i gyd!”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr Paul a Chlwb Rygbi Hendy-gwyn am eu rhodd hael.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

- Advertisement -
Previous articleNew Cancer Clinic Aims To Improve Patient Care
Next articleRugby club raises £500 for Carmarthenshire Special Care Baby Unit
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content