- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Prosiect celf o Sir Gâr ar y rhestr fer am wobr effaith...

Prosiect celf o Sir Gâr ar y rhestr fer am wobr effaith cymdeithasol

0
3
- Advertisement -

Mae People Speak Up o Lanelli wedi cael eu rhoi ar restr fer yng ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2026 am ei gynllun Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref y mae’n ei redeg ar draws Sir Gâr mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chysylltu Sir Gâr.

Mae People Speak Up a’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref ar y rhestr fer yn y wobr Profwch Hi: Y Wobr Effaith Cymdeithasol, a noddir gan ELITE Supported Employment. Ar y rhestr fer hefyd mae Boss a Brew Academy a With Music in Mind.

Crëwyd y cynllun Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cysylltu Sir Gâr, i helpu pobl hŷn, yn arbennig y rhai sy’n unig ac yn byw ar eu pennau eu hunain, i ymgysylltu a helpu i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant gan ddefnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd. Mae’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref yn gweld meddygon teulu, hwyluswyr a Cysylltu Sir Gâr yn cyfeirio achosion a’u cyfateb â hwylusydd proffesiynol ac artist llawrydd o PSU. Yn ystod cyfnod o ychydig wythnosau, mae’r artist a’r hwyluswyr yn mynd i gartref y person hŷn a chyflwyno sesiwn un i un.

- Advertisement -

Deilliodd y rhaglen Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref allan o’r angen i gadw cysylltiad gyda chymuned PSU o bobl hŷn yn ystod COVID, ond amlygwyd yr angen i barhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn pan wnaethant redeg prosiect treialu, Kreative Kinship on Prescription yn 2023, a gweld pa mor bwysig oedd y gwasanaeth un i un hwn mewn ardaloedd gwledig gyda mynediad cyfyngedig.  Y llynedd cofnododd gwerthusiad o’r cynllun bod:

  • 96% o’r cyfranogwyr a gofalwyr wedi cofnodi gwelliant mewn llesiant
  • 78% o’r cyfranogwyr yn dangos cynnydd o ran gwell symudedd.
  • 89% o’r cyfranogwyr a gofalwyr wedi cofnodi cynnydd mewn sgiliau, gwybodaeth a hyder i reoli eu llesiant yn annibynnol
  • 85% o’r cyfranogwyr yn cofnodi eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o gysylltiad ag eraill yn eu bywydau bob dydd
  • 92% o’r cyfranogwyr a gofalwyr wedi cofnodi lleihad yn y teimlad o fod yn ynysig
  • 100% o’r cyfranogwyr/ gofalwyr wedi cofnodi bod y gefnogaeth a gawsant yn dda neu ragorol

“Rydym wedi bod yn gweithio ar wella’r gwasanaeth i’r diben hwn yn y cartref ers dechrau’r Pandemig Covid, pan oedd y gymuned mewn cyfnod clo, pan wnaethom sylweddoli bod ar ein pobl hŷn angen y gwasanaethau cymunedol yma yn y lle maen nhw’n byw, yn eu cartrefi. Nid oedd Zoom yn hygyrch i bawb!”
Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU, Eleanor Shaw.

“Rydym am ddiolch i’n holl artistiaid llawrydd – chwedleuwyr, beirdd, awduron, cantorion, dawnswyr, rapwyr ac artistiaid gweledol sy’n mynd i gartrefi pobl a’u helpu i oresgyn rhwystrau a chefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Rydym am ddiolch i’r cannoedd sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn. Diolch i chi am ymddiried yn ein tîm, ein hartistiaid a’n croesawu i’ch cartrefi i’ch helpu ar eich taith.

Mae People Speak Up (PSU) yn sefydliad cymunedol cymdeithasol, celfyddydol, iechyd, iechyd meddwl a llesiant sy’n gweithio trwy Sir Gâr.

Mae PSU yn cysylltu pobl er mwyn eu helpu i ddod o hyd i’w llais, a chreu cymunedau iachach a mwy gwydn trwy chwedleua, gair ar lafar, ysgrifennu creadigol, gweithgareddau ar sail sgwrsio, celfyddydau cyfranogol, gwirfoddoli a hyfforddiant.

Dywedodd y rhai a gymerodd ran yn y cynllun a’u gofalwyr hefyd:

“Edrychwch pa mor hapus y mae fy mam yn edrych; nid wy’ wedi ei gweld fel hyn ers blynyddoedd.”  Merch cyfranogwr y Cynllun Creadigol yn y Cartref

“Cwmni hyfryd a ddaeth yn ffrindiau hyfryd! Rwy’n mwynhau’r sesiynau celf, hapus iawn gyda’r hyn yr ydych chi’n ei wneud, diolch i chi am wneud fy nyddiau Mercher yn werth mynd allan ar eu cyfer!” Cyfranogwr Cynllun Creadigol yn y Cartref
“Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’r gwasanaeth hwn: Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymddiried ynom ni gan gyfeirio’r bobl hŷn fwyaf bregus at y gwasanaeth a’n comisiynu fel rhan o’r Prosiect Cysylltu Sir Gâr. Diolch yn fawr i Gyngor Celfyddydau Cymru am ein hariannu a pharhau i gefnogi ein gwasanaethau celfyddyd ac iechyd.” Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU, Eleanor Shaw.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref ar wefan a chyfryngau cymdeithasol People Speak Up.

Peoplespeakup.co.uk

- Advertisement -
Previous articleCarmarthenshire arts service shortlisted for social impact award
Next articleCouncil chiefs concerned again about over-spending schools and other departments
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content