- Advertisement -
Home Columnists Cefin Campbell AS Sir Gaerfyrddin yn croesawu arian ychwanegol ar gyfer iechyd, addysg ADY...

AS Sir Gaerfyrddin yn croesawu arian ychwanegol ar gyfer iechyd, addysg ADY a gofal plant

0
2
- Advertisement -

Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin, wedi croesawu £354 miliwn o wariant ychwanegol yng Nghymru yn dilyn cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur i basio cyllideb atodol yn y Senedd heno (nos Fawrth, 3 Tachwedd).

Pleidleisiodd y Senedd o 54 i 39 o blaid y gyllideb, gyda Phlaid Cymru a Llafur yn ei gefnogi.

O ganlyniad i’r bleidlais, bydd £145 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i gryfhau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, £60 miliwn tuag at ddarparu gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol ynghyd â £55 miliwn tuag at gynlluniau’r llywodraeth i ehangu darpariaeth gofal plant.

- Advertisement -

Bydd hefyd arian ychwanegol ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng tai, i wneud trafnidiaeth yn rhatach i bobl ifanc, ac i wneud yn siŵr bod mwy o blant yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Dywedodd Mr Campbell AS:

“Rwy’n falch iawn bod cytundeb wedi’i gyrraedd rhwng Plaid Cymru a Llafur er mwyn rhyddhau’r arian hollbwysig yma fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth ar draws Cymru gan gynnwys yma yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n dangos beth all gael ei gyflawni trwy gydweithio.

“Roedden ni ym Mhlaid Cymru yn ymwybodol o faint yr heriau o’n blaenau pan etholwyd ni i fod y blaid fwyaf yn y Senedd fis Mai ac roedden ni gyd yn clywed ar y stepen drws bod angen newid. Wrth i ni lunio’r gyllideb atodol yma, roedden ni’n canolbwyntio yn amlwg ar y rheiny oedd angen cymorth fwyaf – rheiny ar restrau aros iechyd, teuluoedd gyda phlant ifanc a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

“Mae’r blaenoriaethau yn y gwariant ychwanegol yma yn mynd i’r afael á hynny er mwyn ad-dalu’r ffydd sydd wedi cael ei roi ynom.”

- Advertisement -
Previous articleNew special school a step closer in Llanelli
Next articleCarmarthenshire MS welcomes additional funding for health, ALN education, and childcare

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content