- Advertisement -
Home Electrical Safety Sesiynau Profi Blancedi Trydan Am Ddim yn Sir Gaerfyrddin

Sesiynau Profi Blancedi Trydan Am Ddim yn Sir Gaerfyrddin

0
4
- Advertisement -

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cynnig sesiynau profi blancedi trydan am ddim mewn sawl Gorsaf Dân ledled Sir Gaerfyrddin ym mis Tachwedd eleni.

Wrth i’r hydref droi’n aeaf, bydd llawer o aelwydydd yn cymryd blancedi trydan allan o’u cypyrddau i helpu i leihau costau gwresogi.  Er y gall blancedi trydan fod yn ffordd wych, gost-effeithiol o gadw’n gynnes, mae’n bwysig eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac mewn cyflwr da.

Er mwyn cefnogi preswylwyr, bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol GTACGC yn cynnal gwiriadau diogelwch ar flancedi trydan am ddim, gan archwilio blancedi am ddiffygion posibl ac arwyddion o draul a allai gynyddu’r risg o dân.

- Advertisement -

Yn ystod y sesiynau profi, byddwn yn edrych ar y blancedi trydan i chwilio am:

  • Ffabrig wedi rhwygo neu wedi gwisgo
  • Marciau llosgi neu arwyddion o orboethi
  • Gwifrau agored neu weladwy
  • Teclynnau rheoli, plygiau neu gysylltwyr wedi’u difrodi
  • Traul cyffredinol a allai olygu nad yw’n gweithio’n ddiogel

Bydd aelodau’r Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd ar gael i roi cyngor ymarferol ar atal tân a diogelwch tân yn y cartref, gan helpu preswylwyr i leihau risgiau ac aros yn ddiogel trwy gydol misoedd y gaeaf.

Bydd y sesiynau yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cynnal rhwng 10:30am – 2:30pm yn y lleoliadau hyn: 
  • Gorsaf Dân Llanymddyfri, SA20 0HY – Dydd Llun, 2 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Llanelli, SA15 3PF – Dydd Gwener, 6 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, SA38 9BA – Dydd Llun, 9 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Rhydaman, SA18 2LU – Dydd Mercher, 11 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Caerfyrddin, SA31 1SP – Dydd Gwener, 13 Tachwedd
  • Gorsaf Dân Pont-iets – SA15 5TR – Dydd Llun, 16 Tachwedd
- Advertisement -
Previous articleFree Electric Blanket Testing Sessions in Carmarthenshire
Next articleChief Fire Officer Represents Service at Wales Climate Change and Resilience Summit
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content