Yesterday during one of the three times daily inspections of all Town Council managed parks, one of our Grounds Assistants spotted a Stanley knife blade glued to the inside of a slide at Penyfan Park, Llanelli.
This was immediately removed.
This dangerous incident has been reported to Dyfed Powys Police and the Town Council would encourage anyone with any information to contact the police. In the meantime, we would encourage parents and youngsters to be vigilant of play equipment safety when using parks. This also follows a recent arson incident where a bench on the bottom field in the same park was set on fire.
Cllr John Jenkins, Leader of Llanelli Town Council said ‘I am deeply concerned that an individual in our Community could carry out such a reckless and dangerous act. My thanks to the Town Council staff member for their vigilance. The Town Council takes these incidents incredibly seriously and I would urge anyone with any information to urgently contact the police in order that this person can be dealt with’.
Ddoe yn ystod un o’r archwiliadau tair gwaith bob dydd o’r holl barciau a reolir gan y Cyngor Tref, gwelodd un o’n Cynorthwywyr Tiroedd lafn cyllell Stanley wedi’i gludo i du mewn sleid ym Mharc Penyfan, Llanelli.
Tynnwyd hwn i ffwrdd ar unwaith.
Adroddwyd y digwyddiad peryglus hwn i Heddlu Dyfed Powys a byddai’r Cyngor Tref yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â’r heddlu. Yn y cyfamser, byddem yn annog rhieni a phobl ifanc i fod yn wyliadwrus o ddiogelwch offer chwarae wrth ddefnyddio parciau. Mae hyn hefyd yn dilyn digwyddiad llosgi bwriadol diweddar lle cafodd mainc yn y cae gwaelod yn yr un parc ei rhoi ar dân.
Dywedodd y Cynghorydd John Jenkins, Arweinydd Cyngor Tref Llanelli ‘Rwy’n bryderus iawn y gallai unigolyn yn ein Cymuned gyflawni gweithred mor ddi-hid a pheryglus. Diolch i aelod o staff y Cyngor Tref am eu gwyliadwriaeth. Mae’r Cyngor Tref yn cymryd y digwyddiadau hyn yn ddifrifol iawn a byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar frys er mwyn gallu delio â’r unigolyn hwn’.












