- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Uned Cemotherapi yn derbyn cadair driniaeth newydd ddiolch i gronfeydd elusennol

Uned Cemotherapi yn derbyn cadair driniaeth newydd ddiolch i gronfeydd elusennol

0
28
- Advertisement -

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu cadair driniaeth newydd gwerth dros £4,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Defnyddir cadeiriau triniaeth i ddarparu cemotherapi. Maen nhw’n addasadwy i’w huchder, mae ganddyn nhw gynhaliaeth i’ch pen, gorffwysiad braich lydan er mwyn ei gwneud hi’n hawdd gosod caniwla a gweithdrefnau eraill, a gorffwysfa traed i sicrhau cysur y claf.

Dywedodd Marie Williams, Uwch Brif Nyrs Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT): “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu cadair therapi newydd ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

- Advertisement -

“Mae’r cadeiriau wedi cael adborth cadarnhaol gan gleifion a staff, yn enwedig oherwydd eu cysur yn ystod cyfnodau estynedig o eistedd.”

“Bydd y gadair yn helpu gyda mwy o weithgarwch ar yr uned ac yn sicrhau bod llif cleifion yn cael ei gynnal.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

- Advertisement -
Previous articleOpposition Calls for Rethink on Labour’s Market ‘Working Group’ Proposal
Next articleChemotherapy Unit receives new treatment chair thanks to charitable funds
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content