- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Pobl ifanc sy’n heicio Pen y Fan yn codi £1,250 ar gyfer...

Pobl ifanc sy’n heicio Pen y Fan yn codi £1,250 ar gyfer uned ddydd cemotherapi

0
23
- Advertisement -

Mae criw o bobl ifanc yn eu harddegau o Rydaman wedi cerdded ar hyd Pen y Fan er elusen.

Arweiniodd yr hyfforddwr pêl-droed Simon Jones ddau grŵp o’i chwaraewyr – Merched Clwb Pêl-droed Rhydaman o dan 15 a Dan 17 – i godi’r cyfanswm o £1,250 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip.

Cerddodd y ddau dîm – ynghyd â grŵp o hyfforddwyr sy’n eu cefnogi a’u hyfforddi – i fyny Pen y Fan gyda’i gilydd ym mis Gorffennaf 2025, tra bod mab Simon, Leo hefyd wedi cerdded yr un llwybr wyth gwaith mewn 24 awr, heb stopio, a helpodd hynny i godi mwy o arian.

- Advertisement -

Mae’r uned cemo yn agos at galonnau’r chwaraewyr. Mae dwy o famau chwaraewyr y timau ar hyn o bryd yn cael triniaeth am ganser ac yn cael eu cefnogi gan staff meddygol yn Ysbyty Tywysog Philip. Mae gan Simon hefyd brofiad personol o uned cemotherapi’r ysbyty, gan fod ei fam hefyd wedi cael triniaeth yno eleni.

Dywedodd Simon fod y digwyddiad wedi mynd yn dda iawn a bod pawb a gymerodd ran wedi mwynhau.

Eglurodd:

“Roedd yna ymdeimlad ein bod ni’n gwneud rhywbeth i fod yn falch ohono, oherwydd y rheswm pam ein bod ni’n codi arian.”

Ac fe lwyddodd y grŵp i godi miloedd o bunnoedd, sydd i’w rannu ag ysbytai eraill.

Ychwanegodd Simon:

“Rydym wedi codi £1,250 ar gyfer pob adran, cyfanswm o £3,750 i’w rhoi.

“Hoffwn ddiolch i’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr a rhieni a gymerodd ran. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl bobl hyfryd a gyfrannodd at yr achos gwych hwn.”

Dywedodd Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran staff a chleifion yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i dîm Merched Clwb Pêl-droed Rhydaman o dan 15 a Dan 17, hyfforddwyr, teulu, ffrindiau ac yn enwedig Leo am ymgymryd â’r her anodd hon, gyda’u hymdrechion codi arian yn arwain at gyfraniad hael iawn o £1,250.

“Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/.

- Advertisement -
Previous articleNew therapy bike will support NHS patients’ rehabilitation
Next articleTeenagers hiking Pen y Fan raise £1,250 for chemotherapy day unit
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content