I bobl sy’n byw gyda dementia a’r bobl sy’n gofalu amdanynt, gall dod o hyd i weithgareddau sy’n dod â llawenydd, cysylltiad a chefnogaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae Forget-me-not Choir yn cynnig yn union hynny trwy bum côr cymunedol am ddim yng Nghymru, gan groesawu pobl i ofod llawn cerddoriaeth, chwerthin a chyfeillgarwch.
Diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r elusen nawr yn ehangu i Lanelli.
Mae pob sesiwn ddwy awr yn dechrau gyda chynhesu ysgafn, ac yna llawer o ganu a symud gan gynnwys egwyl am de a sgwrs. Nid oes angen profiad canu blaenorol gan fod cerddoriaeth yn cael ei dysgu trwy wrando, ac mae pawb yn cael eu hannog i ymuno ar eu cyflymder eu hunain. Mae aelodau’r teulu a ffrindiau’n canu ochr yn ochr â’u hanwyliaid, gan greu amgylchedd cefnogol a chalonogol i bawb sy’n cael eu heffeithio arnynt gan ddementia.
Disgrifiodd un cyfranogwr beth mae’r côr yn ei olygu iddyn nhw ‘Fel teulu, fe wnaethon ni i gyd adael yn sioncach ein camau. Mae popeth am FMNC mor llawen.’ Disgrifir yr egni yn yr ystafell fel un ‘hudolus’ ac i lawer o aelodau’r grŵp, mae’r dyrchafiad ysbryd yn parhau ymhell ar ôl i’r sesiwn ddod i ben.
Meddai Katherine Harri, Forget-me-not Chorus: ‘Rydym yn credu’n angerddol mewn grym rhannu cân i wneud gwahaniaeth. Rydym wrth ein bodd bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith fel hyn. Nawr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn gallu dod â’n sesiynau canu cynhwysol a llawen i gymuned Llanelli, gan gefnogi hyd yn oed mwy o bobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.’
Bydd y grŵp cymunedol newydd yn cwrdd bob wythnos am ddwy awr o ganu a chyfeillgarwch… ffordd FMNC, wedi’i cynnal gan People Speak Up! (PSU) elusen cymdeithasol, iechyd meddwl, celfyddydau, iechyd a lles sydd wedi’i lleoli yng nghanol y gymuned.
Meddai Eleanor Shaw, Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol PSU: ‘Rydym wrth ein boddau i weithio gyda Forget-me-not Chorus i ddarparu lle i’r côr gael ei gynnal yn ein hwb celfyddydau, iechyd a lles yn Llanelli. Mae’n lle cwbl hygyrch sy’n darparu man diogel i bobl gysylltu a phrofi gweithgareddau celfyddydol gyda thîm creadigol profiadol. Mae ein grŵp dementia yn gyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o bobl sydd ar daith dementia i’n hwb.’
Pryd: Dydd Mercher, 1.30pm – 3.30pm o Fai 13 2026
Ble: People Speak Up, Hwb Celfyddyfau, Iechyd a Lles, Stryd y Parc, SA15 3YE
Cost: Hollol rad ac am ddim.
Nid oes angen diagnosis na chyfeiriad ffurfiol, ac mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n byw gyda neu ochr yn ochr â dementia.
Diddordeb? Ffoniwch 0800 654 6384 neu anfonwch e-bost at llanelli@forgetmenotchorus.com
Sylwer Rhy bell o adref? Mae sesiynau ar-lein ac adnoddau sydd wedi’u recordio hefyd ar gael os na allwch chi fynychu’n gorfforol, neu ffoniwch 02922 362 964 am ragor o wybodaeth am ein corau cymunedol eraill.














