- Advertisement -
Home Charity Côr Cymunedol Am Ddim i Bobl sy’n Byw Gyda ac Ochr yn...

Côr Cymunedol Am Ddim i Bobl sy’n Byw Gyda ac Ochr yn Ochr â Dementia i ddechrau yn Llanelli diolch i Arian y Loteri Genedlaethol

0
28
- Advertisement -

I bobl sy’n byw gyda dementia a’r bobl sy’n gofalu amdanynt, gall dod o hyd i weithgareddau sy’n dod â llawenydd, cysylltiad a chefnogaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae Forget-me-not Choir yn cynnig yn union hynny trwy bum côr cymunedol am ddim yng Nghymru, gan groesawu pobl i ofod llawn cerddoriaeth, chwerthin a chyfeillgarwch.

Diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r elusen nawr yn ehangu i Lanelli.

Mae pob sesiwn ddwy awr yn dechrau gyda chynhesu ysgafn, ac yna llawer o ganu a symud gan gynnwys egwyl am de a sgwrs. Nid oes angen profiad canu blaenorol gan fod cerddoriaeth yn cael ei dysgu trwy wrando, ac mae pawb yn cael eu hannog i ymuno ar eu cyflymder eu hunain. Mae aelodau’r teulu a ffrindiau’n canu ochr yn ochr â’u hanwyliaid, gan greu amgylchedd cefnogol a chalonogol i bawb sy’n cael eu heffeithio arnynt gan ddementia.

- Advertisement -

Disgrifiodd un cyfranogwr beth mae’r côr yn ei olygu iddyn nhw ‘Fel teulu, fe wnaethon ni i gyd adael yn sioncach ein camau. Mae popeth am FMNC mor llawen.’ Disgrifir yr egni yn yr ystafell fel un ‘hudolus’ ac i lawer o aelodau’r grŵp, mae’r dyrchafiad ysbryd yn parhau ymhell ar ôl i’r sesiwn ddod i ben.

Meddai Katherine Harri, Forget-me-not Chorus: ‘Rydym yn credu’n angerddol mewn grym rhannu cân i wneud gwahaniaeth. Rydym wrth ein bodd bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith fel hyn. Nawr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn gallu dod â’n sesiynau canu cynhwysol a llawen i gymuned Llanelli, gan gefnogi hyd yn oed mwy o bobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.’

Bydd y grŵp cymunedol newydd yn cwrdd bob wythnos am ddwy awr o ganu a chyfeillgarwch… ffordd FMNC, wedi’i cynnal gan People Speak Up! (PSU) elusen cymdeithasol, iechyd meddwl, celfyddydau, iechyd a lles sydd wedi’i lleoli yng nghanol y gymuned.

Meddai Eleanor Shaw, Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol PSU: ‘Rydym wrth ein boddau i weithio gyda Forget-me-not Chorus i ddarparu lle i’r côr gael ei gynnal yn ein hwb celfyddydau, iechyd a lles yn Llanelli. Mae’n lle cwbl hygyrch sy’n darparu man diogel i bobl gysylltu a phrofi gweithgareddau celfyddydol gyda thîm creadigol profiadol. Mae ein grŵp dementia yn gyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o bobl sydd ar daith dementia i’n hwb.’

Pryd: Dydd Mercher, 1.30pm – 3.30pm o Fai 13 2026

Ble: People Speak Up, Hwb Celfyddyfau, Iechyd a Lles, Stryd y Parc, SA15 3YE

Cost: Hollol rad ac am ddim.

Nid oes angen diagnosis na chyfeiriad ffurfiol, ac mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n byw gyda neu ochr yn ochr â dementia.

Diddordeb? Ffoniwch 0800 654 6384 neu anfonwch e-bost at llanelli@forgetmenotchorus.com

Sylwer Rhy bell o adref? Mae sesiynau ar-lein ac adnoddau sydd wedi’u recordio hefyd ar gael os na allwch chi fynychu’n gorfforol, neu ffoniwch 02922 362 964 am ragor o wybodaeth am ein corau cymunedol eraill.

- Advertisement -
Previous articleOver £12m in support payments claimed by Carmarthenshire residents through the Council’s Hwbs
Next articleDangerous Driver Sentenced Following A Police Chase Through Llanelli
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content