- Advertisement -
Home More News Local News Casgliadau biniau dros wyliau banc y Gwanwyn a’r Jiwbilî Platinwm

Casgliadau biniau dros wyliau banc y Gwanwyn a’r Jiwbilî Platinwm

0
39
- Advertisement -

Bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros wyliau banc y Gwanwyn a’r Jiwbilî Platinwm. 

Ni fydd bagiau glas, bagiau du a biniau bwyd yn cael eu casglu ddydd Iau, 2 Mehefin a dydd Gwener 3 Mehefin, a chynghorir preswylwyr i roi eu sbwriel allan ar eu diwrnod casglu bagiau glas neu fagiau du nesaf. Mae biniau gwastraff bwyd yn cael eu casglu bob wythnos.

- Advertisement -

Gellir hefyd mynd â bagiau du, bagiau glas a gwsatraff bwyd i unrhyw un o’r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nant-y-caws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf, sydd i gyd ar agor fel arfer ar y gwyliau banc . Cofiwch archebu apwyntiad ar wefan y cyngor.

Mae’r cyngor yn bwriadu casglu gwastraff hylendid a gwastraff gardd ar y diwrnodau hyn, ond mae ein criwiau’n debygol o ddechrau’n gynt nag arfer felly cynghorir preswylwyr i roi eu gwastraff allan y noson cyn y diwrnod casglu. Cadwch lygad ar dudalen Facebook y cyngor am unrhyw ddiweddariadau oherwydd gallai hyn newid mewn rhai ardaloedd ar fyr rybudd.

Gellir ailgylchu poteli a jariau gwydr yn y banc poteli agosaf, ewch i’r tudalennau ailgylchu ar wefan y cyngor am leoliadau.

Dywedodd Ainsley Williams, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Ymddiheurwn i breswylwyr am unrhyw anghyfleustra a achosir. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal trafodaethau gyda’n criwiau a’r undebau mewn perthynas â graddfeydd cyflog sy’n golygu, yn anffodus, nad ydym mewn sefyllfa i gyflawni ein prif gasgliadau biniau dros wyliau’r banc. Rydym yn ymgysylltu â’r gweithlu a’r undebau ac rydym yn gobeithio dod i ddatrysiad cyn gynted â phosibl.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadarnhau pryd mae eich casgliad, ewch i sirgar.llyw.cymru/ailgylchu

- Advertisement -
Previous articleLlanelli Naturalists – And Now For The Newts…
Next articleSpring and Platinum Jubilee bank holiday bin collections 
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content