- Advertisement -
Home More News Local News Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gofyn am farn i wella lles lleol 

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gofyn am farn i wella lles lleol 

0
44
- Advertisement -

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin yn gofyn am farn trigolion er mwyn darganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw a’u cymunedau lleol.

Mae’r BGC wedi datblygu ei Amcanion Llesiant a’i gamau drafft i’w cyflawni, yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd ar ei Asesiad Llesiant. Roedd canlyniadau arolwg bryd hynny yn casglu safbwyntiau a helpu i lunio dealltwriaeth y BGC o’r ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol sy’n effeithio ar les unigolion a chymunedau o fewn Sir Gaerfyrddin.

- Advertisement -

Gofynnir i bobl gyfrannu unwaith eto, er mwyn helpu partneriaid gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu Cynllun Llesiant Lleol Sir Gâr ar gyfer 2023-28.

I helpu i lywio dyfodol llesiant ewch i: Ymgynghoriadau actif (llyw.cymru)

Daw’r arolwg i ben ar 25 Ionawr 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin ac Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “I ddarparu’r hyn sy’n bwysig i’n cymunedau, rydyn ni angen eu hadborth a’u mewnbwn. Mae’r arolwg hwn yn gyfle i’n trigolion ddweud wrthym os ydym ni, fel gwasanaethau cyhoeddus, ar y trywydd iawn i helpu i greu dyfodol gwell i genhedlaeth ein plant, a’r cenedlaethau i ddilyn, wrth i ni ymdrechu i gyrraedd y nod hwn.” 

Ychwanegodd Andrew Cornish, Is-Gadeirydd y BGC a Phrif Swyddog Gweithredol / Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith hyd yn hyn. Mae ein Hasesiad Llesiant yn rhoi sylfaen gref i ni i adeiladu ein Cynllun Llesiant a hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn ein gwaith cynnwys ar gyfer paratoi’r Cynllun.”

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin yn bartneriaeth o sefydliadau sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella llesiant ar draws y sir ac yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill.

- Advertisement -
Previous article Public Services Board seeks views to improve local well-being
Next articleMum Runs London Marathon In Memory Of Four-Month-Old Baby Cousin To Say Thanks To Wales Air Ambulance
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content