- Advertisement -
Home More News Local News Bwyta Allan i Helpu Allan

Bwyta Allan i Helpu Allan

0
61
- Advertisement -

nl-logo

Gall bwytai a sefydliadau eraill, sy’n gweini bwyd i’w fwyta ar y safle, gofrestru nawr ar gyfer menter newydd gan y llywodraeth sydd â’r nod o ddiogelu swyddi yn y diwydiant lletygarwch ac annog pobl i ddychwelyd i fwyta allan yn ddiogel.

Bydd bwytai, bariau, caffis a sefydliadau eraill sy’n defnyddio’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan yn cynnig gostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, i bob person sy’n bwyta a/neu’n yfed ar y safle drwy gydol mis Awst.

- Advertisement -

Ni fydd angen taleb ar gwsmeriaid gan y bydd y sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn cynnwys y gostyngiad ar eu bil. Yn syml, mae busnesau’n adennill y gostyngiad drwy wasanaeth ar-lein, a gynhelir gan Gyllid a Thollau EM (CThEM). Gellir cyflwyno hawliadau yn wythnosol a chânt eu talu i gyfrifon banc cyn pen pum diwrnod gwaith.

Mae’r cynllun ar gael i sefydliadau cymwys ledled y DU a gellir ei ddefnyddio drwy’r dydd, bob dydd Llun i ddydd Mercher, rhwng 3 a 31 Awst 2020.

Bydd twlsyn er mwyn dod o hyd i fwytai ar gael i’r cyhoedd cyn lansio’r cynllun ar 3 Awst.

Gall y cynllun gael ei ddefnyddio gan bobl sy’n archebu bwyd a/neu ddiodydd i’w bwyta neu yfed ar y safle. Mae alcohol wedi’i eithrio o’r cynnig.

Bydd busnesau’n cael sticer i roi yn eu ffenestr i ddangos eu bod yn defnyddio’r cynllun, a gallant lawrlwytho deunydd hyrwyddo o GOV.UK.

Gallwch gofrestru ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan os yw’ch sefydliad:

  • yn gwerthu bwyd sydd i’w fwyta ar y safle pan gaiff ei brynu
  • yn darparu ei ardal fwyta ei hun, neu’n rhannu ardal fwyta gyda sefydliad arall, ar gyfer prydau sydd i’w bwyta ar y safle
  • wedi cofrestru fel busnes bwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol ar neu cyn 7 Gorffennaf

Gall busnesau gofrestru i fod yn rhan o’r cynllun ar-lein yn GOV.UK. Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau, gan gynnwys sut i gofrestru a chyflwyno hawliad, ar gael ar-lein yn GOV.UK.

- Advertisement -
Previous articleOver A Quarter Of Parents In Wales ‘Out Of Their Depth’ As Children Struggle With Pandemic Fallout
Next articleEat Out to Help Out

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content