- Advertisement -
Home More News Local News Trafnidiaeth Cymru yn atgyfnerthu’r neges am deithio hanfodol yn unig yng Nghymru

Trafnidiaeth Cymru yn atgyfnerthu’r neges am deithio hanfodol yn unig yng Nghymru

0
37
- Advertisement -

Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgyfnerthu neges Llywodraeth Cymru i’r cyhoedd cyn i’r cyfyngiadau symud cenedlaethol – ‘y cyfnod atal byr’ – ddod i rym, gan annog pobl i wneud teithiau hanfodol yn unig.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfyngiadau ‘atal byr’ newydd i helpu i leihau lledaeniad Covid-19 o 6pm nos Wener 23 Hydref 2020 tan ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfyngiadau hefyd ar yr holl deithio yng Nghymru a dim ond os yw eu taith yn hanfodol y dylai pobl deithio.

- Advertisement -

Mae TrC yn cynghori defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus, os bydd angen iddyn nhw deithio, i fwrw golwg ar amserlenni’n rheolaidd gan y bydd llai o wasanaethau rheilffyrdd ar gael.

Fodd bynnag, ni fydd gwasanaethau rheilffyrdd o Gymru i Loegr, na’r rheini sy’n cael eu gweithredu gan TrC yn Lloegr, yn newid.

Mae TrC yn gofyn hefyd i gwsmeriaid rheilffyrdd y mae angen iddyn nhw wneud taith hanfodol rhwng Cymru a Lloegr gofio bod canllawiau gwahanol ar waith yn y gwledydd gwahanol yn y DU, a bod yn rhaid dilyn y rhain.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru;

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth yn Trafnidiaeth Cymru ac rydyn ni’n cefnogi cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn llwyr i helpu i leihau lledaeniad Covid-19.

“Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, bydd trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol yn unig a bydd llai o wasanaethau’n rhedeg.”

Mwy o wybodaeth yma.

The post Trafnidiaeth Cymru yn atgyfnerthu’r neges am deithio hanfodol yn unig yng Nghymru first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleAsesiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2019-2020
Next articleTransport for Wales reinforces essential travel only in Wales

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content