- Advertisement -
Home More News Health News Bydd y gwasanaeth blynyddol Yn Ein Calonnau Am Byth yn cael ei...

Bydd y gwasanaeth blynyddol Yn Ein Calonnau Am Byth yn cael ei gynnal fel gwasanaeth coffa rhithwir eleni am 6.30pm ddydd Llun 30 Tachwedd 2020.

0
38
- Advertisement -

Bob blwyddyn, mae Adran Gofal Ysbrydol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd â Phwyllgor Codi Arian Tŷ Cymorth yn cynnal Gwasanaeth Yn Ein Calonnau Am Byth yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne. 

Meddai Euryl Howells, Uwch Gaplan BIP Hywel Dda: “Tachwedd yw mis cofio. Mae atgofion yn gynnes ac yn gysur – yn ein llenwi â llawenydd neu ein llenwi â thristwch a gofid.

- Advertisement -

“Bydd y seremoni yn le ac yn amser i gofio. Yn anffodus nid yw’n bosib inni ddod ynghyd, ond y gobaith yw y bydd y gwasanaeth coffa rhithwir hwn, wedi’i ffilmio yng ngolwg gerddi Tŷ Cymorth, yn dod â rhywfaint o gysur i’r rhai sy’n galaru, ac yn eu hatgoffa nad ydynt ar eu pen eu hunain, a bod eraill yn cerdded ochr yn ochr â chi – er o bell.”

Efallai yr hoffech gael cannwyll i’w gaoleuo yn ystod y cofio, carreg fechan i’w dal neu lun o’ch anwylyd. Bydd darlleniad aml-ffydd, amser i fyfyrio a cherddoriaeth offerynol a byddwn yn cynnau golau y Goeden Gofio – y Goeden o Obaith.

Os hoffech gysegru golau neu anfon neges o obaith, gallwch wneud hynny Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk

Bydd Gwasanaeth Yn Ein Calonnau Am Bythyn dechrau am 6.30pm ddydd Llun 30 Tachwedd 2020. I wylio’r gwasanaeth, defnyddiwch y ddolen https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_MTM1MjBkY2QtZWMyMi00ZmVmLWJkZmEtYTNhNmZhM2JlZDE2%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%22bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae%22%2c%22Oid%22%3a%22e4e6fd79-4c80-441e-844c-e4ce7ff28523%22%2c%22IsBroadcastMeeting%22%3atrue%7d

The post Bydd y gwasanaeth blynyddol Yn Ein Calonnau Am Byth yn cael ei gynnal fel gwasanaeth coffa rhithwir eleni am 6.30pm ddydd Llun 30 Tachwedd 2020. first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleGreener future for police as Dyfed-Powys PCC invests in electric cars
Next articleAnnual ‘Their Love Still Shines’ online service announced
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content