- Advertisement -
Home More News Local News Mae dal amser i gymryd rhan mewn raffl wych a drefnwyd gan...

Mae dal amser i gymryd rhan mewn raffl wych a drefnwyd gan Gareth Whalley o Comins Coch, Aberystwyth, i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda.

0
71
- Advertisement -

Mae’r digwyddiad https://raffall.com/179793/enter-raffle-to-win-hywel-dda-raffle-extravaganza-hosted-by-gareth-whalley yn dod i ben yr wythnos hon ac mae eisoes wedi codi dros £1,320. Mae Gareth hefyd yn bwriadu cymryd rhan mewn naid am nawdd yn ddiweddarach eleni, fydd yn dod â cyfanswm ei ymgyrch i dros £1,760.

Dywedodd Gareth: “Gyda Rhian (fy chwaer) wedi geni Efan, bachgen bach hyfryd yn Glangwili a’r gofal eithriadol y mae wedi’i gael yno rwy’n fwy penderfynol nag erioed i gadw’r momentwm i fynd nes bydd y raffl yn gorffen ddydd Llun.”

- Advertisement -

Meddyg GIG yw cariad Gareth. Ychwanegodd: “Gan wybod pa mor brysur yw hi ar hyn o bryd, nid wyf wedi ei gweld ers mis Rhagfyr oherwydd y cyfyngiadau ac rydw i wir eisiau codi cymaint ag y gallaf gan fy mod i’n falch ohoni a’r hyn mae hi’n ei wneud.

“Rwy’n gobeithio y cawn ni newyddion cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar leddfu cyfyngiadau yn yr adolygiad nesaf a bydd yn rhoi rhywbeth i’r enillwyr lwcus edrych ymlaen ato wedi Gaeaf anodd iawn.”

Mae Heather, mam Gareth yn nyrs yn Hywel Dda ac mae wedi gweithio yn y GIG ers dros 40 mlynedd. Meddai, “Mae’r GIG wedi golygu llawer iawn i ni fel teulu. Rydym yn falch iawn o Gareth ar gwaith y mae’n ei wneud i godi arian i’r GIG. Mae wedi gwneud rhywbeth nad yw’n gyfforddus yn ei wneud trwy wneud naid am nawdd a nawr mae wedi penderfynu codi arian pellach trwy gynnal raffl gyda gwobrau gwych sydd wedi’u rhoi gan gwmnïau lleol o Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. ”

Gareth Whalley

Meddai Gareth, “Rwy’n gwneud hyn i ddweud diolch enfawr i staff y GIG, sydd wedi bod trwy gymaint. Rwyf hefyd eisiau gwneud rhywbeth i godi ysbryd y cyhoedd a hefyd i roi’r cyfle i ennill gwobrau gwych.

“Mae’r raffl yn cymryd mwy o drefnu na’r naid am nawdd, ond rydw i wedi mwynhau trefnu gwobrau gwych. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl fusnesau lleol am y rhoddion anhygoel o garedig, hebddyn nhw ni fyddai wedi bod yn bosibl, ”meddai.

Heather Whalley 

Meddai Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Gareth am wynebu ei ofnau a gwneud naid am nawdd i ni yn ddiweddarach eleni, ac mae’n wych ei fod wedi dod o hyd i ffordd wych arall o godi arian a fydd yn darparu eitemau ychwanegol i gleifion a staff y tu hwnt i wariant craidd y GIG. ”

Yn y llun gwelir mam Gareth a’i chydweithwyr GIG yng Nghanolfan Thomas Parry yn Aberystwyth a

Gareth a rhai o’r gwobrau a roddwyd gan fusnesau lleol.

The post Mae dal amser i gymryd rhan mewn raffl wych a drefnwyd gan Gareth Whalley o Comins Coch, Aberystwyth, i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda. first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleNHS Fundraising Raffle Ends Soon
Next articleCare home residents treated to St David’s Day online concert
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content