- Advertisement -
Home More News Local News Annog profion COVID-19 ar gyfer trigolion rhanbarth Hywel Dda sydd ag ystod...

Annog profion COVID-19 ar gyfer trigolion rhanbarth Hywel Dda sydd ag ystod ehangach o symptomau

0
30
- Advertisement -

Mae pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu hannog i gael prawf COVID-19 am ddim os oes ganddyn nhw ystod ehangach o symptomau.

Yn flaenorol, dim ond y rhai â thymheredd uchel, peswch parhaus newydd, neu golli / newid blas ac arogl, a gynghorwyd i gael prawf. Mae’r bwrdd iechyd bellach hefyd yn annog pobl i gael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau canlynol:

- Advertisement -
  • Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (poen yn y cyhyrau neu); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi’i rwystro; tisian yn barhaus; dolur gwddf a / neu grygni, prinder anadl neu wichian
  • Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid yn dilyn prawf negyddol blaenorol

Nod y newid yw dod o hyd i achosion COVID-19 cudd yn ein cymunedau a lleihau nifer y trosglwyddiadau.

Mae nodi heintiau, a allai fel arall heb eu canfod, yn arbennig o bwysig wrth i amrywiadau newydd o’r feirws ddod i’r amlwg. Po fwyaf o brofion a gynhelir, yr hawsaf fydd hi i adnabod clystyrau cynnar o achosion a newidiadau feirws posibl. Bydd hyn yn helpu i leddfu cyfyngiadau yn y dyfodol.

Bydd y drefn brofi newydd yn rhedeg i ddechrau am o leiaf 28 diwrnod ac yna’n cael ei hadolygu. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hefyd yn ehangu ei gynnig o brofi fel hyn.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar y cyfan, rydym yn gweld darlun cadarnhaol ar draws y tair sir a bu cwymp cyson yn nifer yr achosion COVID-19.

“Hefyd, mae’r galw am brofion wedi gostwng yn sylweddol ers diwedd 2020, felly mae gennym y gallu i ehangu’r cynnig o brofi i’r rheini sydd ag ystod ehangach o symptomau.

“Rydym yn gwybod bod y grŵp ehangach o symptomau yn digwydd gyda COVID-19 ond nid ydynt yn cael eu hadrodd mor aml â’r tri symptom arferol. Gyda cyfraddau isel iawn o ffliw yn cylchredeg ar hyn o bryd, mae’n fwy tebygol bod symptomau ehangach tebyg i ffliw oherwydd COVID-19.

“Ein nod yw dod o hyd i gynifer o achosion COVID-19 â phosibl fel y gallwn atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo i eraill. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddod â’r pandemig i ben mor gyflym â phosib a helpu i godi’r cyfyngiadau. “

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau a amlinellir uchod, arhoswch gartref a chael prawf trwy archebu ar-lein trwy borth y DU https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffonio 119.

Gan mai cysylltiadau cenedlaethol yw’r rhain, efallai y gofynnir ichi yn awtomatig am y tri symptom cyffredin. Fodd bynnag, i archebu’ch prawf, dewiswch naill ai un o’r opsiynau hyn: “Mae eich cyngor lleol wedi gofyn i chi gael prawf” neu “Rydych chi’n rhan o brosiect peilot y llywodraeth”.

Ar ôl i chi gael eich prawf, rhaid i chi barhau i hunan-ynysu nes i chi dderbyn eich canlyniad, a fydd fel arfer o fewn 24 awr i’r prawf. Os yw’ch canlyniad yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod o’r dyddiad y dechreuodd eich symptomau. Bydd y Tîm Olrhain lleol yn cysylltu â chi hefyd.

Os yw’ch canlyniad yn negyddol, gallwch chi ddod â’ch hunan-ynysu i ben, pan fyddwch chi’n teimlo’n ddigon da i wneud hynny.

The post Annog profion COVID-19 ar gyfer trigolion rhanbarth Hywel Dda sydd ag ystod ehangach o symptomau first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleThe Story of Welsh Art
Next articleCOVID-19 tests now being encouraged for people in the Hywel Dda region with a wider range of symptoms
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content