
Ynghyd â’n preswylwyr yn mwynhau gŵyl banc y Pasg, rydym yn rhagweld nifer uchel o ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin a gall rhai mannau prydferth a thraethau fod yn brysur iawn
Beth am fynd i ddarganfod hoff le newydd ac archwilio ein trysorau cudd gan gynnwys Bae Caerfyrddin yn y de a mynyddoedd Cambria yn y gogledd. Gall ychydig o ymchwil a chynllunio ychwanegol wneud eich penwythnos yn llawer mwy pleserus.
Er mwyn diogelu pawb, mae ein busnesau twristiaeth yn rhoi safonau glanhau uwch ar waith ac yn newid eu gweithdrefnau i gydymffurfio â chanllawiau’r Llywodraeth. Mae llawer bellach yn falch o gyflawni achrediad twristiaeth Barod Amdani, sydd ar waith ledled y DU.
Gwnewch eich addewid i Gymru. Byddwch yn barchus a gwnewch y pethau bychain i gadw Cymru’n ddiogel.
The post Wna’i ddim gadael olion ar fy ol first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.













