Mewn ymateb i gyhoeddiad Undeb Rygbi Cymru y bydden nhw’n torri’r nifer o glybiau proffesiynol yng Nghymru o 4 i 3, dywedodd cynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, Cefin Campbell AS, Ann Davies AS ac Adam Price AS:
“Mae cynlluniau diweddaraf Undeb Rygbi Cymru yn parhau i gyfleu bygythiad amlwg i ddyfodol rygbi proffesiynol yn Llanelli a Sir Gâr, sy’n rhywbeth mae’n rhaid i ni fel aelodau etholedig dros yr ardal ei wrthwynebu ar lefel sylfaenol.
“Mae’r Scarlets yn cyfrannu cymaint at y gamp ar lefel genedlaethol, at economi Llanelli a Sir Gâr ac maen nhw’n ganolog i hunaniaeth a diwylliant yr ardal.
“Galwn unwaith eto ar Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu cynlluniau ac i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau yn gwarchod dyfodol rygbi proffesiynol yn Sir Gâr.”











