Mae Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Sir Gaerfyrddin wedi mynegi pryderon busnesau bychain yn y sir am ddyfodol canol eu trefi yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 30 Medi).

Ym mis Mehefin a Gorffennaf eleni, cynhaliodd Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, arolwg o fusnesau canol trefi annibynnol mewn deg tref yn Sir Gaerfyrddin er mwyn clywed eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol a’u holi ynglŷn â pholisïau adfywio Plaid Cymru.

Un polisi penodol gafodd ei brofi oedd diwygio’r drefn ar gyfer pennu trethi busnes fel bod busnesau bychain yng nghanol trefi yn talu llai, a chwmnïau mwy ar y cyrion yn talu mwy.
Yn ôl yr arolwg, roedd 67.8% o ymatebwyr yn credu bod lefelau ardrethi busnes yn rhy uchel ar hyn o bryd, gyda ffigwr tebyg – 71.6% – yn mynegi eu bod yn rhwystr i dyfu eu busnesau. O ganlyniad, roedd 85.6% o ymatebwyr yn cefnogi polisi Plaid Cymru i ddiwygio’r drefn ardrethi busnes.

Yn siarad yn y siambr, dywedodd Cefin Campbell AS:
“Brif Weinidog, rwy’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod dirywiad canol ein trefi yn dwysáu ac yn peri gofid mawr.
“Yn ddiweddar, cynhaliodd fy swyddfa arolwg busnes ledled Sir Gaerfyrddin. Mae’r canlyniadau’n cyfleu darlun llwm.
“O ystyried y dystiolaeth—a yw’r Prif Weinidog yn cytuno â pherchnogion busnesau Sir Gaerfyrddin bod polisïau presennol Llafur yn methu canol ein trefi?”
Mewn ymateb, cyfeiriodd Eluned Morgan at y bleidlais yn y Senedd o fis Mawrth eleni ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chefnogaeth flaenorol i fusnesau bach, i ddiystyru cwestiwn Mr Campbell AS:
“Felly, beth yw eich ateb? Mynd ymhellach? Rhoi mwy iddyn nhw? Dyna alwad gyson Plaid Cymru.
“Rydych chi eisiau mwy o arian, ac eto, pan ddaeth y cwestiwn, wnaethoch chi ddim hyd yn oed gefnogi’r arian a roesom i mewn y tro diwethaf.”
Nodiadau:
- Cofnod o’r drafodaeth yn y Senedd: https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/15365
- Daw’r holl ffigurau gan arolwg swyddfa Cefin Campbell AS. Cyfanswm maint y sampl oedd 159 perchennog busnes, ar draws 10 tref yn Sir Gaerfyrddin. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 27 Mehefin a 29 Gorffennaf 2025. Y 10 tref: Caerfyrddin; Cydweli; Llanelli; Llandeilo; Rhydaman; Cross Hands; Castell Newydd Emlyn; Llanymddyfri; Sanclêr; a Hendy-gwyn ar Dâf
- Wedi’u hatodi:
- Canlyniadau’r arolwg yn llawn.
- Copi o’r arolwg.
- Lluniau o Cefin Campbell AS yn y Siambr a gyda’r arolwg.
- Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Owain Meirion 07932 909142.












