
Anogir teuluoedd i helpu i gadw plant yn actif tra eu bod yn aros gartref yn ystod y coronafeirws.
Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin wedi creu cyfres o heriau ar-lein y gellir eu gwneud yn y cartref neu’r ardd.
Bob dydd Llun, bydd fideo neu ffeithlun o sgìl newydd yn cael ei ddangos ar dudalen Facebook Chwaraeon a Hamdden Actif.
Bydd y sgiliau yn helpu pobl ifanc i ddatblygu a symud ymlaen, yn ogystal â’u cadw’n heini ac yn iach.
Gall yr holl weithgareddau gael eu gwneud gan ddefnyddio sanau, tedis, clustog, bin, teganau neu beli, a gall pawb gymryd rhan.
Mae’r gemau a ddangoswyd eisoes yn cynnwys Gemau Gwirion, Fi atat Ti ataf Fi a Bwrw Bwced, ar Facebook a Twitter.
Ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, mae staff Actif yn dangos fideos o’u plant yn gwneud y gweithgareddau ac yn cael hwyl.
Anogir rhieni i wneud yr un peth drwy ddangos fideos o’u plant ar dudalen Facebook Chwaraeon a Hamdden Actif y cyngor.
Hefyd, mae’r tîm yn gobeithio lansio fideos ffitrwydd i aelodau Actif ar y dudalen Facebook, yn ogystal â rhai wedi’u teilwra ar gyfer y rheiny sydd ar y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae angen inni gadw mor actif â phosibl nawr, yn fwy nag erioed. Mae hwn yn gyfnod heriol ond, cyhyd ag y byddwn yn iach, ni ddylem adael i’r coronafeirws ein hatal rhag cadw’n heini. Gellir gwneud y gweithgareddau hyn yn y cartref neu’r ardd ac maent yn ddull gwych o gefnogi plant i gadw’n actif. Hefyd, maent yn hwyl ac yn ddiddorol, ac maent yn helpu pobl ifanc i gynnal a datblygu eu sgiliau mewn amgylchedd diogel.”












