Neath Port Talbot Council has agreed to adopt the Welsh Government’s Code of Practice for Ethical Employment in Supply Chains.
The overarching aim of the Code is to support public sector organisations to tackle illegal and unfair employment practices within its supply chains across Wales and further afield.
The code’s 12 commitments cover a range of employment issues such as modern slavery and human rights abuses, ensuring that employees are not discriminated against if they join a trade union, false self-employment, unfair use of umbrella schemes and zero hours contracts, and paying the Living Wage.
The Council, which spends in excess of £140 million a year on goods and services, already carries out many of the actions identified in the Code.
Councillor Doreen Jones, Cabinet Member for Corporate Services and Equality, said:
“I am pleased that the Council has agreed to adopt the Code of Practice.
“As a Council, we are strongly committed to the wellbeing of all those who deliver services to the public, whether they are employed directly or through our supply chain. We will continue to work closely with our partners to promote and develop good employment practices which empower and reward workers.”
Mark Fisher, Chair of the Joint Trade Unions, said:
“We are so pleased that the Authority have agreed to sign the Ethical Charter, this clearly shows that the Authority care about their workforce and want to work in partnership with the trade unions to support all staff working in care in Neath Port Talbot Council, also outside agencies.
“The over-riding objective behind the Charter is to establish a minimum baseline for the safety, quality and dignity of care by ensuring employment conditions which a) do not routinely short-change clients and b) ensure the recruitment and retention of a more stable workforce through more sustainable pay, conditions and training levels. Rather than councils seeking to achieve savings by driving down the pay and conditions that have been the norm for council employed staff, they should be using these as a benchmark against which to level up. Councils will be asked to sign up to the Charter and UNISON will regularly publish the names of councils who do.
“As chair of the joint trade unions we commend Neath Port Talbot Council for adopting the charter and driving up standards in care for the vulnerable and erode bad terms and conditions and ensure that it is not a race to the bottom in pay for carers.”
The Code will be imbedded into the Council’s existing Ethical Employment in Supply Chains Policy.
Y cyngor yn mabwysiadu côd cyflogaeth foesegol ar gyfer ei gadwyni cyflenwi
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cytuno i fabwysiadu Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Nod trosgynnol y côd yw cefnogi sefydliadau sector cyhoeddus i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg yn eu cadwyni cyflenwi ar draws Cymru ac ymhellach i ffwrdd.
Mae 12 o ymrwymiadau’r côd yn cynnwys nifer o broblemau cyflogaeth megis caethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol, gan sicrhau nad yw gweithwyr yn derbyn triniaeth wahaniaethol os ydynt yn ymuno ag undeb llafur, hunan-gyflogaeth ffug, defnydd annheg o gynlluniau mantell a chontractau dim oriau, a thalu’r Cyflog Byw.
Mae’r cyngor, sy’n gwario dros £140 miliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau, eisoes yn cymryd llawer o’r camau gweithredu a nodwyd yn y côd.
Meddai’r Cyng. Doreen Jones, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb,
“Rydw i’n falch bod y cyngor wedi dewis mabwysiadu’r Côd Ymarfer.
“Fel cyngor, rydym yn ymrwymedig iawn i les yr holl bobl sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd, p’un a ydynt yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol neu trwy gadwyn gyflenwi. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid er mwyn hyrwyddo a datblygu arferion cyflogaeth da sy’n grymuso ac yn gwobrwyo gweithwyr.”
Meddai Mark Fisher, Cadeirydd yr Undebau Llafur ar y Cyd,
Rydym mor falch bod yr awdurdod wedi cytuno i arwyddo’r Siarter Foesegol, mae hyn yn dangos yn glir bod yr awdurdod yn gofalu am ei weithlu ac eisiau gweithio mewn partneriaeth â’r undebau llafur er mwyn cefnogi’r holl staff sy’n gweithio ym maes gofal yn CBSCNPT ac asiantaethau allanol hefyd. Y bwriad trosgynnol y tu ôl i’r siarter yw sefydlu gwaelodlin gofynnol ar gyfer diogelwch, safon ac urddas gofal trwy sicrhau amodau cyflogaeth a) nad ydynt yn trin cwsmeriaid yn annheg yn rheolaidd a b) sy’n sicrhau recriwtio a chadw gweithlu mwy sefydlog trwy dâl, amodau a hyfforddiant mwy cynaliadwy. Yn hytrach na chynghorau’n ceisio cyflawni arbedion trwy leihau’r tâl a’r amodau sydd wedi bod yn arferol ar gyfer staff y cyngor, dylent ddefnyddio’r rhain fel meincnod ar gyfer gwella. Bydd gofyn i gynghorau gofrestru ar gyfer y siarter a bydd UNSAIN yn cyhoeddi enwau’r cynghorwyr sy’n gwneud hynny yn rheolaidd.
“Fel Cadeirydd yr Undebau Llafur ar y Cyd rydym yn canmol CBSCNPT am fabwysiadu’r siarter a gwella safonau gofalu am y diamddiffyn a chael gwared ar amodau a thelerau gwael a sicrhau nad yw cyflogau gofalwyr yn mynd yn is ac yn is.”
Bydd y côd yn cael ei wreiddio ym Mholisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’r cyngor sydd eisoes yn bodoli.
Penderfynwyd mabwysiadu’r côd yn ystod cyfarfod Cabinet y cyngor ddydd Mercher 23 Ionawr 2019.














