- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Cymeradwyo Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru i fynd i’r afael â sbwriel a...

Cymeradwyo Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru i fynd i’r afael â sbwriel a hybu ailddefnyddio

0
19
- Advertisement -

Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid rheoliadau newydd a fydd yn sefydlu Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru o fis Hydref 2027 ymlaen.

Mae’r penderfyniad yn nodi cam pwysig arall yn nhaith Cymru tuag at economi gylchol a mynd i’r afael â sbwriel.

Mae Cynllun Dychwelyd Ernes yn gweithio trwy ychwanegu blaendal bach at bris diodydd mewn cynwysyddion cymwys pan fyddant yn cael eu prynu. Bydd aelodau’r cyhoedd yn cael yr arian hwnnw yn ôl pan fyddant yn dychwelyd y cynhwysydd gwag i bwynt dychwelyd dynodedig, fel peiriant mewn archfarchnad neu siop. Mae’r cynwysyddion wedyn yn cael eu casglu a’u hailgylchu neu eu hailddefnyddio, gan gadw deunyddiau gwerthfawr allan o safleoedd tirlenwi ac oddi ar y strydoedd.

- Advertisement -

Bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn  hybu lefelau ailgylchu Cymru sydd eisoes ar y blaen ar lefel fyd-eang drwy helpu’r genedl i gymryd y cam nesaf i wella ailgylchu a dechrau’r broses o dreialu a chyflwyno fesul cam. Yn arwain y DU, dyma’r unig gynllun dychwelyd blaendal ym mhob un o’r pedair gwlad i gynnwys poteli gwydr.

Mae’r rheoliadau’n rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes a all gyflawni i Gymru, gan gyflawni budd amgylcheddol drwy fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a hefyd greu cyfleoedd economaidd pwysig ar gyfer twf gwyrdd, tra’n hyrwyddo’r dull a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gan fod y rheoliadau hyn bellach wedi’u pasio mae modd symud ymlaen o ran gweithredu’r cynllun hwn mewn partneriaeth â diwydiant, llywodraeth leol a phartneriaid cyflenwi.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

“Dyma garreg filltir allweddol i Gymru. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos y gall Cynllun Dychwelyd Ernes fynd i’r afael â sbwriel, gwella ailgylchu y tu allan i’r cartref a lleihau gwastraff ymhellach. Bydd hyn yn cadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad am gyfnod hirach — gan adeiladu ar y system ailgylchu flaengar y mae Cymru eisoes wedi’i datblygu

“Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda busnesau, awdurdodau lleol a chymunedau wrth i ni baratoi at weithredu yn 2027.”

Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn dechrau ar y cam nesaf o ran gweithredu, gan gynnwys penodi’r Sefydliad Rheoli Ernes i redeg y cynllun a chyflawni’r trefniadau gweithredol manwl erbyn Hydref 2027, ochr yn ochr ag ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid a gweithio mewn partneriaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar y posibiliadau o ran cynnwys cynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio ochr yn ochr ag eitemau ernes untro, gan helpu i leihau gwastraff a chefnogi economi fwy cylchol.

- Advertisement -
Previous articleDeposit Return Scheme for Wales approved to tackle litter and drive reuse
Next articleThe Mac Problem in Forex Trading — Why It Still Costs Brokers Clients
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content