
Mae gan fusnesau bach yn Sir Gaerfyrddin sy’n cyflogi hyd at naw o bobl gyfle bellach i elwa o gynllun cymorth rhent oherwydd caledi Covid-19.
Bydd cynllun Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd wedi’i gapio ar £1,500 i bob ymgeisydd busnes llwyddiannus, yn helpu i dalu taliadau rhent am hyd at dri mis.
Mae’r cynllun hwn yn disodli cynnig gwreiddiol y Cyngor i greu cronfa cymorth oherwydd caledi i fusnesau bach yn sgil y pecynnau cyllid i fusnesau sydd wedi cael eu cyhoeddi ers hynny gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Gellir cyflwyno cais yma i gynllun y Cyngor bellach, a fydd yn darparu ar gyfer busnesau yn Sir Gaerfyrddin na allant gael cymorth ariannol drwy ffynonellau eraill.
Mae’r cynllun ar gael i fusnesau bach sy’n bodloni’r canlynol:
• Cyflogi rhwng un a naw o bobl
• Rhentu lle â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai
• Trosiant blynyddol o dan £85,000
• Heb fod wedi’u cofrestru ar gyfer TAW
• Heb fod yn talu ardrethi busnes yn uniongyrchol
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, bydd busnesau o’r math hwn hefyd yn wynebu caledi a achosir gan argyfwng Covid-19.
Bydd cymorth rhent yn cael ei roi i ymgeiswyr busnes sydd â’r angen mwyaf.
Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adnoddau: “Mae ein cynllun cymorth rhent oherwydd caledi wedi’i anelu’n benodol at fusnesau bach yn Sir Gaerfyrddin nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cael cymorth grant ariannol drwy’r ffynonellau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
“Rydym yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu busnesau ledled Sir Gaerfyrddin, ond mae’r cynllun hwn yn dangos ymhellach mor ymrwymedig yw’r Cyngor i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
“Mae’r pwysau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu yn golygu mai cyfyngedig yw’r cyllid ar gyfer y cynllun hwn, a dyna pam y byddwn yn blaenoriaethu cymorth i fusnesau cymwys sydd â’r angen mwyaf.
“Mae’r cynllun hwn yn dilyn gwasanaeth ymateb ffôn y Cyngor sy’n rhoi cymorth i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd ag adran bwrpasol ynghylch COVID-19 i fusnesau ar wefan y Cyngor sy’n rhoi gwybodaeth am y cyllid sydd ar gael, yn ogystal â chyfeirio pobl at gymorth a chanllawiau pellach.”
Mae gwasanaeth ymateb ffôn Covid-19 ar gyfer trigolion a busnesau ar gael drwy ffonio 01267 234567 rhwng 8.30am a 6pm, saith diwrnod yr wythnos.












