- Advertisement -
Home Carmarthenshire News Elusen yn ariannu grŵp cymorth ar gyfer cleifion canser y pen a’r...

Elusen yn ariannu grŵp cymorth ar gyfer cleifion canser y pen a’r gwddf

0
43
- Advertisement -

Mae Gwasanaeth Canser y Pen a’r Gwddf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gallu darparu grwpiau cymorth wyneb yn wyneb i gleifion diolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Mae rhoddion hael i elusen y GIG wedi galluogi cleifion canser y pen a’r gwddf i gwrdd wyneb yn wyneb mewn amgylchedd diogel yn lle rhithiol.

- Advertisement -

 

Dywedodd Hayley Owen, Cynorthwyydd Cymorth Canser y Pen a’r Gwddf Macmillan: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i drefnu grwpiau cymorth wyneb yn wyneb gyda chleifion.

 

“Mae ein cleifion wedi dweud bod y grwpiau cymorth wedi rhoi hwb aruthrol i’w lles emosiynol a meddyliol. Mae’r adborth gan aelodau’r grŵp am ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn hynod gadarnhaol ac yn nodi’r grwpiau hyn fel rhan ganolog o’u proses adfer ar ôl triniaeth canser.

“Mae rhoddion i Wasanaeth Canser y Pen a’r Gwddf yn galluogi darpariaeth barhaus o gefnogaeth i gleifion canser y pen a’r gwddf. Mae’n caniatáu inni eu cynorthwyo nhw a’u teuluoedd cyn ac ar ôl triniaeth, yn ystod eu hadferiad hirdymor a darparu cymorth i’n cleifion lliniarol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk

- Advertisement -
Previous articleCharity funds support group for head and neck cancer patients
Next articleStand Up To Racism West Wales to Protest to Highlight ‘Inhumane’ Rwanda Bill
X
X
Skip to content