- Advertisement -
Home More News Carmarthen Gyrwraig beryglus a anafodd merch pedair oed yn ddifrifol yng Nghaerfyrddin yn...

Gyrwraig beryglus a anafodd merch pedair oed yn ddifrifol yng Nghaerfyrddin yn cael dedfryd o ddeg mis o garchar.

0
40
- Advertisement -

Mae gyrwraig wedi’i dedfrydu i ddeg mis o garchar, a’i gwahardd rhag gyrru am 20 mis, yn dilyn ei gweithredoedd ar 21 Chwefror 2023.

Canfu Jolanta Motiejuniene, 48 oed, o Lesley Street, Port Talbot, yn euog o Achosi Anaf Difrifol drwy Yrru Diofal/Anystyriol yn dilyn treial, a chafodd ei dedfrydu ddydd Gwener 12 Medi 2025 yn Llys y Goron, Abertawe.

Roedd Motiejuniene yn casglu dros elusen ar 21 Chwefror 2023 yn Waun Burgess, Caerfyrddin – gan yrru fan Mercedes Sprinter, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad difrifol ychydig ar ôl 11 o’r gloch y bore hwnnw.

- Advertisement -

Roedd y ferch, a oedd yn bedair oed ar y pryd, yn reidio beic ar yr ystâd, pan wrthdarodd y fan, a oedd yn cael ei gyrru gan Motiejuniene, â hi, gan wneud iddi ddioddef anaf pen difrifol – y mae’n parhau i ddod drosto.  

Cafodd ei dedfrydu i ddeg mis o garchar, a’i gwahardd rhag gyrru am 20 mis.

Dywedodd teulu’r plentyn: “Ddwy flynedd yn ôl, trowyd ein bywydau wyneb i waered oherwydd yr anafiadau a achoswyd i’n merch hardd. Rydyn ni wedi tystio i, a dioddef, trawma na ddylai’r un rhiant ddioddef, a allai fod wedi’i osgoi pe bai’r yrwraig yn edrych ble’r oedd hi’n mynd.

“Rydyn ni’n fythol ddiolchgar i Farnwr Llys y Goron, y Rheithgor, Bargyfreithiwr yr Erlyniad a Heddlu Dyfed-Powys am gael y cyfiawnder mae’n haeddu i’n merch. Diolchwn hefyd i staff GIG yn ysbytai Glangwili ac Arch Noa, criw’r Ambiwlans Awyr, ffisiotherapyddion ein merch, a’n teulu a’n ffrindiau, y mae eu cymorth a’u cariad wedi’n helpu drwy ddwy flynedd ofidus a thrawmatig iawn.”

Dywedodd Cwnstabl Lucy Peppiatt o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys: “Rydyn ni’n croesawu dedfryd Motiejuniene. Fe wnaeth ei gyrru diofal y diwrnod hwnnw arwain at anafu plentyn ifanc iawn yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yr oedd modd ei osgoi.

“Mae’r ddedfryd hon yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at sicrhau cyfiawnder, ac rydyn ni hefyd yn gobeithio ei bod yn atgoffa gyrwyr am ganlyniadau difrifol gyrru mewn modd diofal ac anystyriol – gan roi cerddwyr bregus mewn  perygl.”  

- Advertisement -
Previous articleDangerous driver who seriously injured four-year-old girl in Carmarthen jailed for 10 months.
Next articlePRIDE IN PLACE PROGRAMME IS LABOUR’S “POLITICAL PANIC BUTTON”
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content