Mae Nerys Evans, un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai, wedi dweud fod y Blaid yn bwriadu symud ymlaen gyda chynlluniau i ail-agor gorsaf yn Sanclêr, ar ôl blynyddoedd o oedi.
Cyhoeddwyd cynlluniau gwreiddiol i ail-agor gorsaf reilffordd Sanclêr – a gaeodd yn yr 1960au – yn 2020, ond nid yw’n weithredol o hyd er pwysau gan ymgyrchwyr a gwleidyddion.
Yn eu maniffesto, a gyhoeddwyd yn gynharach ym mis Ebrill, addawodd Plaid Cymru i wella cysylltiadau rheilffyrdd yn y Gorllewin, ac ailadroddon nhw eu galwad am ran deg i Gymru o’r arian HS2, ac am ddatganoli rheilffyrdd i Gymru.
Yn ôl Plaid Cymru, mae £4 biliwn yn ddyledus i Gymru fel canlyniad i’r degau o filiynau sydd wedi’u gwario ar brosiect rheilffordd HS2, sydd wedi’i glustnodi fel prosiect ‘Lloegr a Chymru’ er na fydd unrhyw ddarn o’r trac rhwng Birmingham a Llundain yn agos at Gymru.
Dywedodd Nerys Evans:
“Mae teimlad yn aml yn Sir Gaerfyrddin nad ydym yn cael ein cyfran deg o gyllid, ac mae hynny’n gwbl gyfiawn. Yn rhy aml, mae Cymru yn cael ychydig iawn, a gorllewin Cymru hyd yn oed yn llai.
“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu’n barhaus dros ein cyfran deg o fuddsoddiad rheilffyrdd yng Ngorllewin Cymru, ac mewn llywodraeth, byddwn yn sicrhau triniaeth deg i gymunedau fel Sanclêr.
“Rydym wedi amlinellu sut y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dod â chynlluniau i ddatblygu ein rheilffyrdd yn y Gorllewin ymlaen – gan gynnwys yn Sanclêr – hyd yn oed wrth i ni frwydro dros y cyllid a phwerau y mae Cymru yn ei haeddu.
“Mae hi’n hanfodol bwysig bod llywodraeth gyda ni wedi’r etholiad ar 7 Mai sydd wir yn fodlon sefyll i fyny dros ein pobl a’n cymunedau er mwyn galw am yr arian a’r grymoedd sy’n ddyledus i ni, nid yn unig gyda rheilffyrdd ond sawl maes polisi arall.”












