- Advertisement -
Home Llanelli News Rhagnodwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl hŷn yn y gymuned trwy gynnig ymweliadau...

Rhagnodwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl hŷn yn y gymuned trwy gynnig ymweliadau cartref gan gantorion, rapwyr, dawnswyr ac artistiaid

0
19
- Advertisement -

Mae’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref yn rhaglen gelfyddydol ac iechyd arloesol sydd wedi bod yn rhedeg yn Sir Gâr ers 2023, ac mae’n cefnogi unigolion sy’n byw mewn unigrwydd ar draws Sir Gâr.

Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, People Speak Up a Cysylltu Sir Gâr, mae’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref wedi ei ddylunio i helpu pobl hŷn, yn arbennig y rhai sy’n unig ac yn byw ar eu pennau eu hunain, i ymgysylltu a helpu i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant gan ddefnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd.

Mae’r Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref yn gweld meddygon teulu/ rhagnodwyr cymdeithasol a phartneriaid Cysylltu Sir Gâr yn cyfeirio achosion a’u cyfateb â hwylusydd llesiant proffesiynol ac artistiaid llawrydd o’r sefydliad celfyddyd a llesiant, People Speak Up. Mae’r artist a’r hwyluswyr llesiant yn mynd i gartref y person hŷn a chyflwyno sesiwn un i un. Mae’r sesiynau a gynhelir yng nghartrefi’r unigolion yn rhai i’r diben yn ôl anghenion a diddordebau’r rhai y mae’n anelu at eu helpu. 

- Advertisement -

Ers ei lansio yn 2023, mae dros 300 o bobl wedi cael budd o’r cynllun arloesol.

Nododd rhai o’r datganiadau effaith gan y rhai a gymerodd ran yn y Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref:

Os na fyddai’r rhagnodwr cymdeithasol wedi dod i’m gweld y diwrnod hwnnw, fyddwn i ddim wedi gallu cael mynediad at wasanaeth mor wych.”

Dywedodd Rhagnodwyr Cymdeithasol lleol yn Sir Gâr fel hyn am y cynllun, “Mae rhywbeth y gallaf gyfeirio rhywun ato yma bob amser, ac rwy’n credu pe na fyddai People Speak Up yma, y byddai yna fwlch anferth yn Llanelli.”

“Yn fy marn i, mae PSU yn cynnig achubiaeth i bobl i gychwyn taith tuag at well llesiant. Mae eu cefnogaeth i bobl Sir Gâr yn amhrisiadwy a boed iddo barhau yn hir iawn.” Buddug Davies.

Dywedodd Sylfaenydd a Phrif Weithredwr People Speak Up, Eleanor Shaw, “Rydym wedi bod yn gweithio ar wella’r gwasanaeth i’r diben hwn yn y cartref ers dechrau’r Pandemig Covid, pan oedd y gymuned mewn cyfnod clo, pan wnaethom sylweddoli bod ar ein pobl hŷn angen y gwasanaethau cymunedol yma yn y lle maen nhw’n byw, yn eu cartrefi. Nid oedd Zoom yn hygyrch i bawb!”

Mae gennym dîm anhygoel, angerddol ac ymroddedig o artistiaid llawrydd – chwedleuwyr, beirdd, awduron, cantorion, dawnswyr, rapwyr ac artistiaid gweledol sy’n mynd i gartrefi pobl a’u helpu i oresgyn rhwystrau a chefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

Rydym am ddiolch i’r cannoedd sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn ac ymddiried ynom ni, y gwasanaeth a’n croesawu i’w cartrefi. Mae wedi bod yn daith wirioneddol hudolus, nid dim ond i’r rhai a gymerodd ran ond i’r tîm creadigol hefyd. Datblygodd perthnasau, crëwyd swyddi newydd, rydym wedi gweld gwelliant mewn iechyd meddwl, llesiant, mae symudedd wedi cynyddu ac mae’r bobl hŷn oedd ddim yn gadael eu cartrefi am fisoedd, wedi dechrau ymweld â’n canolfan yn Llanelli a’n gofod celfyddydol yn y Ganolfan Byw’n Dda yng Nghaerfyrddin. Mae’r effaith wedi lledaenu i fod yn wytnwch cymunedol a grymuso personol, y cyfan yn deillio o syniad syml iawn. Hoffem hefyd ddiolch i’n holl bartneriaid – enghraifft wirioneddol o’r hyn sy’n digwydd trwy weithio mewn partneriaeth.”

Rydym yn gweithio o’r Ganolfan Celfyddyd, Iechyd a Llesiant yn Llanelli a’r Ganolfan Byw’n Dda yng Nghaerfyrddin. Mae People Speak Up (PSU) yn sefydliad cymunedol cymdeithasol, celfyddydol, iechyd, iechyd meddwl a llesiant sy’n gweithio trwy Sir Gâr.

Er mwyn gweld y digwyddiadau diweddaraf a’r gweithgareddau ewch i peoplespeakup.co.uk

- Advertisement -
Previous articleSocial prescribers supporting older people in the community by offering home visits by singers, rappers, dancers and artists
Next articleCarmarthenshire schools recognised as Careers Wales Quality Award pilot paves the way for national rollout 
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content