- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Rygbi’r Scarlets ac Elusennau Iechyd Hywel Dda yn adnewyddu partneriaeth i gefnogi...

Rygbi’r Scarlets ac Elusennau Iechyd Hywel Dda yn adnewyddu partneriaeth i gefnogi Cronfa Ddymuniadau

0
33
- Advertisement -

Mae Rygbi’r Scarlets wedi cyhoeddi ei gefnogaeth barhaus i’r Gronfa Ddymuniadau – ymgyrch dwymgalon sy’n cael ei rhedeg gan Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n ariannu profiadau llawen i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu’n bygwth bywyd, a’u teuluoedd.

Ers ei lansio yng ngwanwyn 2022, mae’r Gronfa Ddymuniadau wedi codi £40,000, gan alluogi tîm Gofal Lliniarol Pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu eiliadau cofiadwy i deuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru. Mae’r rhain wedi cynnwys gwibdeithiau arbennig i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Urdd Llangrannog, ac ymweliadau Nadoligaidd â’r Celtic Manor.

Mae teuluoedd hefyd wedi cael eu croesawu i gemau’r Scarlets yn rhad ac am ddim, gyda stondin gwybodaeth Cronfa Ddymuniadau yn bresennol yn rheolaidd yn y gemau cartref i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch.

- Advertisement -

Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym wrth ein bodd o gael cefnogaeth barhaus y Scarlets i’n hymgyrch Cronfa Ddymuniadau. Mae’r gefnogaeth hon yn ein helpu i fynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, gan gynnig adnoddau chwarae therapiwtig, pecynnau lles i frodyr a chwiorydd, a gweithgareddau grŵp sy’n dod â theuluoedd at ei gilydd.

“Mae’r profiadau hyn yn ein helpu i adeiladu atgofion parhaol ac eiliadau o lawenydd yn ystod cyfnod anodd.”

Ychwanegodd chwaraewr y Scarlets Josh Macleod: “Mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o fenter y Gronfa Ddymuniadau. Gobeithio y gall ein cefnogaeth ddod â gwen a phrofiadau bythgofiadwy i deuluoedd ar draws y rhanbarth.

“Rydyn ni eisiau ysbrydoli eraill i gymryd rhan a’n helpu ni i ledaenu ychydig o hapusrwydd lle mae ei angen fwyaf.”

I ddysgu mwy neu i gefnogi’r ymgyrch, ewch i: Y Gronfa Ddymuniadau – Elusennau Iechyd Hywel Dda (gig.cymru)

- Advertisement -
Previous articleCouncil submits Scarlets Economic and Social Impact Assessment to the WRU 
Next articleScarlets Rugby and Hywel Dda Health Charities renew partnership to support Wish Fund
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content