- Advertisement -
Home Charity Tîm Evans yn ymgymryd â Phenwythnos Cwrs Hir i godi arian ar...

Tîm Evans yn ymgymryd â Phenwythnos Cwrs Hir i godi arian ar gyfer uned cemo Ysbyty Tywysog Philip

0
146
- Advertisement -

Mae Tîm Evans – tîm codi arian gwych o dros 30 o deulu a ffrindiau – yn cynnal digwyddiad rhedeg 5k Cymru ar y Penwythnos Cwrs Hir ar 2 Gorffennaf i godi arian ar gyfer yr uned cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Fis Awst diwethaf, cafodd y triathletwr Wayne Evans ddiagnosis o ganser datblygedig y pancreas gyda chanserau pellach mewn pedair ardal eilaidd. Mae Wayne wedi hyfforddi a chystadlu mewn digwyddiadau erioed ac roedd i fod i wneud Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod fis Medi diwethaf, ond yn anffodus ni ddigwyddodd hyn oherwydd ei ddiagnosis.

Yn anhygoel, er gwaethaf ei ddiagnosis, cwblhaodd Wayne driathlonau Sbrint Abertawe a Llanelli yn ddiweddarach y flwyddyn honno fel rhan o dîm lle bu’n cerdded neu’n rhedeg y ras 5k.

- Advertisement -

Eleni, mae Wayne a’i gefnogwyr wedi penderfynu cymryd rhan yn 5k Cymru i godi arian ar gyfer yr uned cemotherapi fel diolch am y gofal rhagorol y maent wedi’i ddarparu.

Cafodd y tîm leoedd am ddim yn y digwyddiad gan Activity Wales ac Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd grŵp o gefnogwyr hefyd yn dilyn ochr yn ochr i gefnogi’r rhedwyr.

Yn ogystal, mae cyfranogwyr eraill yn cefnogi trwy brynu crysau T a chyfrannu.

Dywedodd Charlotte Evans, gwraig Wayne: “Mae’r tîm yn yr uned cemo wedi ein cefnogi ers diwedd mis Awst. Maent yn anhygoel ac yn haeddu cymaint o gydnabyddiaeth â phosibl.

“Y digwyddiad llawn diwethaf y cymerodd Wayne ran ynddo oedd y Penwythnos Cwrs Hir y llynedd: dechreuodd gael symptomau amlwg erbyn amser y digwyddiad ac yn anffodus aeth i lawr y rhiw oddi yno.

“Mae Wayne yn ddyn mor boblogaidd ac rydym wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl yn cefnogi’r digwyddiad codi arian. Mae hwn yn mynd i fod yn un emosiynol iddo gan y byddai’n flwyddyn ers ei ddigwyddiad llawn diwethaf. Ond rydym yn gobeithio ei wneud yn ddiwrnod gwych lle byddwn yn dod at ein gilydd fel tîm a chyflawni rhywbeth arbennig iawn.”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud pob lwc a diolch i Tîm Evans! Bydd yr arian a godir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i gleifion a staff uned cemotherapi Tywysog Philip. Edrychwn ymlaen at eich cefnogi!”

Gellir rhoi rhoddion i Team Evans yn:Fundraiser by Charlotte Evans : Team Evans 5K (gofundme.com)

I gael rhagor o fanylion am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

- Advertisement -
Previous articleTeam Evans takes on Long Course Weekend to raise funds for Prince Philip chemo unit
Next articleThe Canal Barge
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content