- Advertisement -
Home More News Newyddion Lle Rhybuddir teuluoedd y gallent wynebu dirwy os byddant yn teithio

Rhybuddir teuluoedd y gallent wynebu dirwy os byddant yn teithio

0
85
- Advertisement -

Rhybuddir teuluoedd y gallent wynebu dirwy os byddant yn teithio i unrhyw wyliau sydd wedi’u trefnu ganddynt dros wyliau’r Pasg.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â Heddlu Dyfed-Powys, yn rhybuddio pobl i lynu at ganllawiau’r Llywodraeth ac aros gartref neu wynebu cael eu troi’n ôl a chael Hysbysiad Cosb Benodedig.

Gwneir hyn mewn ymateb i’r Coronafeirws (COVID-19), er mwyn helpu i’w atal rhag lledaenu.

- Advertisement -

Rhaid i deuluoedd sydd ag ail-gartrefi neu dai haf hefyd gydymffurfio ac aros yn eu prif breswylfeydd.

Mae’r cyhoedd, yn ogystal â’r heddlu a’r Cyngor, yn parhau i addasu i’r mesurau newydd a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Ein prif flaenoriaeth yw diogelu ein cymunedau a helpu i atal y feirws rhag lledaenu. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn glynu wrth y canllawiau a hoffwn ddiolch iddyn nhw am hynny. Fodd bynnag, mae’n edrych yn debyg bod yna leiafrif sy’n anwybyddu cyngor y Llywodraeth ac yn dal ati i deithio pan nad yw hynny’n hanfodol. Nid yw hyn yn dderbyniol a bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn gwneud hyn yn ne-orllewin Cymru yn cael ei anfon adref neu’n wynebu dirwy hyd yn oed. Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i bob un ohonom ond ein prif flaenoriaeth yw atal lledaeniad y feirws a chadw ein hanwyliaid yn ddiogel – mae’n rhywbeth y gallwn ni i gyd helpu i’w wneud. Arhoswch gartref i ddiogelu eich cymuned, i ddiogelu eich hunain, ac i atal trosglwyddiad y feirws.”

Hefyd, cynghorir teuluoedd i ganslo unrhyw wyliau y maent wedi’u trefnu ar gyfer y 12 wythnos nesaf

- Advertisement -
Previous articleCefnogi plant agored i niwed a’u teuluoedd
Next articleNew look Ward 10 re-opens to patients

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content