Trist oedd darllen heddiw bod Siop y Pentan Llanelli yn cau ei drysau ar ddechrau mis Mawrth. Mae Siop y Pentan Llanelli wedi rhoi lle amlwg i’r Gymraeg yn y dref ac wedi gwasanaethu’r dref a’r ardal ehangach.
Nododd Rhodri Davies Ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru; “Mae’n hynod o drist i feddwl bo’ ddim siop lyfrau o gwbwl yng nghanol dre a chymaint o hanes a diwylliant. Os taw gorau arf, arf dysg, mae’n hanfodol bo’r boblogaeth – hen ac ifanc yn gallu cael dewis o ddeunydd I’w ddarllen yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae llyfrgell y dref yn adnodd arbennig ond mae’r profiad o grwydro mewn i siop lyfrau a chael gadael gyda trysorau newydd, annisgwyl yn un o bleserau bywyd”.
Diolch iddynt am eu gwasanaeth ac am rhoi cyfle i drigolion yr ardal mewn cyfnod anodd o galedu.
Dymunwn pob llwyddiant iddynt wrth parhau a’u gwasanaeth yn Siop y Pentan Caerfyrddin gan mawr hyderu y ddaw na gyfle o’r newydd i’r Gymraeg yma yn nhref Llanelli.












