Diolch i’r rhoddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu pum gwely bydi gwerth dros £6,000 a fydd yn galluogi rhieni i aros gyda’u plant yn Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.
Cadair orwedd yw gwelyau bydi sy’n darparu lle i rieni gysgu a gorffwys, gan eu galluogi i ofalu am blant a phobl ifanc o erchwyn eu gwely.
Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig, “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu’r gwelyau bydi newydd.
“Rydym bob amser yn annog un rhiant i aros gyda’u plant a phobl ifanc, i fod yn rhan o’u gofal ac i roi sicrwydd pwysig i’w plant a phobl ifanc wrth iddynt gael triniaeth.
“Mae’n hanfodol i iechyd a lles rhieni eu bod yn cael cwsg a gorffwys da wrth ofalu am eu plentyn ifanc sâl. Gellir lleihau straen trwy gael mynediad i’r gwelyau bydi sy’n galluogi rhieni a gwarcheidwaid i aros gyda’u plant a phobl ifanc.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk













