- Advertisement -
Home Columnists Cefin Campbell Achub y Scarlets: Aelodau etholedig yn mynegi “gwrthwynebiad sylfaenol” i gynlluniau Undeb...

Achub y Scarlets: Aelodau etholedig yn mynegi “gwrthwynebiad sylfaenol” i gynlluniau Undeb Rygbi Cymru

0
25
- Advertisement -

Mae tri aelod etholedig Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi mynegi eu “gwrthwynebiad sylfaenol” i unrhyw gynllun fydd yn dod a rygbi proffesiynol yng ngorllewin Cymru i ben yn eu hymateb i ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru ar eu cynigion ar gyfer dyfodol y gamp broffesiynol.

Daw’r ymyriad gan Cefin Campbell AS, Ann Davies AS ac Adam Price AS ar drothwy gorymdaith fawr i amddiffyn dyfodol y tîm yn Llanelli yfory (dydd Sadwrn, 27 Medi).

Yn eu hymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Mr Campbell AS, Mrs Davies AS a Mr Price AS:

- Advertisement -

“Mae’n rhaid i ni fel aelodau etholedig dros Sir Gaerfyrddin ddatgan ein gwrthwynebiad sylfaenol i unrhyw gynllun a gynigir a fyddai’n dod â therfyn i rygbi proffesiynol yn Llanelli a Sir Gâr.

“Mae [y cynlluniau arfaethedig] yn anochel yn agor y posibilrwydd o ddiddymu’r Scarlets fel clwb, a diwedd rygbi proffesiynol yng ngorllewin Sadwrn, sydd, fel byddwch yn ymwybodol, wedi derbyn cryn wrthwynebiad ac anniddigrwydd ar lawr gwlad yn barod. Ni allwn ni gefnogi unrhyw gynllun sy’n cynnwys y perygl yma.

“Yn wyneb goblygiadau dwys y cynigion arfaethedig, rydym yn galw ar Undeb Rygbi Sadwrn i ailystyried y cynlluniau presennol ac i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau yn gwarchod dyfodol rygbi proffesiynol yng ngorllewin Sadwrn. Mae dyfodol y Scarlets yn fwy na dim ond tîm rygbi – mae’n rhan annatod o hunaniaeth, economi a balchder gorllewin Sadwrn.”

- Advertisement -
Previous articleAchub y Scarlets: Aelodau etholedig yn mynegi “gwrthwynebiad sylfaenol” i gynlluniau Undeb Rygbi Cymru
Next articleSave our Scarlets: Elected members express “fundamental opposition” to WRU plans
Web Admin
Keith is the first point of call for issues with the Llanelli Standard website. He makes sure that if it goes down, then it gets back up and running as soon as possible! As an admin of the website, some articles often get assigned to him, but don't worry, he has not taken credit for the work of the actual author! This just means the author needs reassigning. If this is your work, feel free to get in touch and let the team know.
X
X
Skip to content