- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Bydd beic therapi newydd yn cefnogi adsefydlu cleifion y GIG

Bydd beic therapi newydd yn cefnogi adsefydlu cleifion y GIG

0
20
- Advertisement -

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu beic therapi hyfforddwr goddefol gweithredol newydd gwerth dros £7,000 ar gyfer Ward 9 yn Ysbyty Tywysog Philip.

Bydd y beic newydd yn helpu i hwyluso adsefydlu cleifion Ward 9 o salwch fel strôc ac anafiadau eraill i’r ymennydd.

Dywedodd Bethan Levy, Ffisiotherapydd Arbenigol: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu’r beic newydd hwn.

- Advertisement -

“Mae’r hyfforddwr goddefol gweithredol yn galluogi cleifion i wneud ymarfer corff aerobig sy’n hynod fuddiol ar gyfer eu hadsefydliad. Nid yn unig y mae’n cefnogi eu hadferiad corfforol, gall hefyd fod o fudd seicolegol iddynt trwy ddarparu cyfleoedd i ymarfer corff a chwblhau gweithgaredd mwy normal na fyddent yn gallu ei wneud fel arfer yn yr ysbyty.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/.

- Advertisement -
Previous articleLabour Government ends miners pension injustice by returning BCSSS investment reserve to former mineworkers and their families
Next articleNew therapy bike will support NHS patients’ rehabilitation
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content