- Advertisement -
Home Hywel Dda Health Charities Elusen y GIG yn cynnig lleoedd am ddim ym Marathon MyWay TCS...

Elusen y GIG yn cynnig lleoedd am ddim ym Marathon MyWay TCS Llundain 2026

0
19
London Marathon MyWay - 1
- Advertisement -

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi sicrhau tri lle elusennol am ddim i gefnogwyr sy’n dymuno cymryd rhan ym Marathon TCS MyWay Llundain 2026 – ras rhithwir y marathon byd-enwog.

Yn digwydd ddydd Sul 26 Ebrill 2026, mae Marathon TCS MyWay Llundain  yn rhoi’r rhyddid i gyfranogwyr gwblhau’r pellter eiconig 26.2 milltir o unrhyw leoliad. Boed yn rhedeg, loncian neu gerdded, mae gan gyfranogwyr 23 awr, 59 munud a 59 eiliad i orffen yr her. Rhaid cwblhau’r digwyddiad yn yr awyr agored, ond gall cyfranogwyr ddewis unrhyw lwybr sy’n addas iddynt.

Mae’r marathon rhithwir yn opsiwn perffaith i unrhyw un sydd erioed wedi breuddwydio am gymryd rhan ym Marathon Llundain ond a fyddai’n well ganddynt

- Advertisement -

• amserlen fwy hyblyg

• y cyfle i gwblhau’r pellter ar eu cyflymder eu hunain

• y gallu i gymryd rhan heb deithio i Lundain.

Bydd cyfranogwyr yn derbyn:

• Crys-T a medal gorffenwr (dewisol)

• Treial am ddim gyda Coopah, ap hyfforddi swyddogol Marathon Llundain TCS

• Mynediad i’r ap olrhain digwyddiadau swyddogol.

Yn gyfnewid am un o’r lleoedd cyfyngedig am ddim, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gofyn i gefnogwyr godi o leiaf £300 er budd gwasanaeth Hywel Dda o’u dewis.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym mor gyffrous i gynnig y lleoedd MyWay arbennig hyn i’n cefnogwyr. Mae’r marathon rhithwir yn gyfle gwych i bobl o bob gallu ymgymryd â her eiconig mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.

“Bydd pob punt a godir yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i gleifion a staff ar draws ein gwasanaethau GIG lleol. Allwn ni ddim aros i gefnogi ein codwyr arian anhygoel wrth iddyn nhw ymgymryd â’r 26.2 milltir eu ffordd eu hunain.”

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. I ofyn am le neu i gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda drwy e-bost yn fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk neu dros y ffôn ar 01267 239815.

- Advertisement -
Previous articleTheatre group raises £500 for Llanelli hospital
Next articleNHS charity offers free spaces in the TCS London Marathon MyWay 2026
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content