Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi sicrhau tri lle elusennol am ddim i gefnogwyr sy’n dymuno cymryd rhan ym Marathon TCS MyWay Llundain 2026 – ras rhithwir y marathon byd-enwog.
Yn digwydd ddydd Sul 26 Ebrill 2026, mae Marathon TCS MyWay Llundain yn rhoi’r rhyddid i gyfranogwyr gwblhau’r pellter eiconig 26.2 milltir o unrhyw leoliad. Boed yn rhedeg, loncian neu gerdded, mae gan gyfranogwyr 23 awr, 59 munud a 59 eiliad i orffen yr her. Rhaid cwblhau’r digwyddiad yn yr awyr agored, ond gall cyfranogwyr ddewis unrhyw lwybr sy’n addas iddynt.
Mae’r marathon rhithwir yn opsiwn perffaith i unrhyw un sydd erioed wedi breuddwydio am gymryd rhan ym Marathon Llundain ond a fyddai’n well ganddynt
• amserlen fwy hyblyg
• y cyfle i gwblhau’r pellter ar eu cyflymder eu hunain
• y gallu i gymryd rhan heb deithio i Lundain.
Bydd cyfranogwyr yn derbyn:
• Crys-T a medal gorffenwr (dewisol)
• Treial am ddim gyda Coopah, ap hyfforddi swyddogol Marathon Llundain TCS
• Mynediad i’r ap olrhain digwyddiadau swyddogol.
Yn gyfnewid am un o’r lleoedd cyfyngedig am ddim, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gofyn i gefnogwyr godi o leiaf £300 er budd gwasanaeth Hywel Dda o’u dewis.
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym mor gyffrous i gynnig y lleoedd MyWay arbennig hyn i’n cefnogwyr. Mae’r marathon rhithwir yn gyfle gwych i bobl o bob gallu ymgymryd â her eiconig mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw.
“Bydd pob punt a godir yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i gleifion a staff ar draws ein gwasanaethau GIG lleol. Allwn ni ddim aros i gefnogi ein codwyr arian anhygoel wrth iddyn nhw ymgymryd â’r 26.2 milltir eu ffordd eu hunain.”
Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. I ofyn am le neu i gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda drwy e-bost yn fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk neu dros y ffôn ar 01267 239815.














