- Advertisement -
Home Dyfed Powys Police Carcharu dyn am ymosodiad direswm a adawodd y dioddefydd yn yr ysbyty...

Carcharu dyn am ymosodiad direswm a adawodd y dioddefydd yn yr ysbyty am ddeufis

0
67
- Advertisement -

Mae dyn 21 oed a gerddodd i ffwrdd yn ddigynnwrf ar ôl taro dyn yn anymwybodol mewn ymosodiad direswm, a welodd ei ddioddefydd yn treulio deufis yn yr ysbyty, wedi’i garcharu am 4 blynedd a 10 mis.

Esgusodd Christian Hart o Heol Tregoning, Llanelli, baffio gyda’i ddioddefydd ar Heol yr Orsaf yn y dref cyn ei daro deirgwaith. Syrthiodd y dyn am yn ôl a tharo ei ben ar y llawr. 

- Advertisement -

Yn hytrach na galw am gymorth, cerddodd Hart a’i ffrindiau i ffwrdd, gan adael ei ddioddefydd yn anymwybodol ar y llawr.

Seiniwyd y larwm ac aed â’r dioddefydd i’r ysbyty lle’r oedd angen llawfeddygaeth arno ar ôl dioddef gwaedu difrifol ar ei ymennydd.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jack Harris, a ymchwiliodd i’r ymosodiad, y byddai’n rhaid i’r dioddefydd ddioddef effeithiau’r ymosodiad am flynyddoedd lawer, er ei fod wedi’i ryddhau o’r ysbyty.

Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Harris: “Cipiwyd yr ymosodiad ar deledu cylch cyfyng. Yr ydych yn gweld yn glir bod Hart yn mynd at y dioddefydd, yn esgus paffio ag ef, ac yna’n ei daro deirgwaith.

“Mae’r dioddefydd yn syrthio, yn taro ei ben ar y concrit, ac yn gorwedd yno tra bod Hart yn cerdded i ffwrdd.”

Ymddangosodd Hart yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu ddydd Mawrth 18 Ionawr ar ôl pledio’n euog i niwed corfforol difrifol â bwriad mewn gwrandawiad blaenorol. 

“Roedd hwn yn ymosodiad difrifol, a adawodd y dioddefydd ag anafiadau difrifol yr oedd yn ffodus i wella ohonynt.

“Aeth llawer o waith heddlu, a gafodd ei gynorthwyo’n fawr gan deledu cylch cyfyng da, i mewn i wneud achos mor gryf fel nad oedd fawr o ddewis gan Hart ond pledio’n euog.”

The post Carcharu dyn am ymosodiad direswm a adawodd y dioddefydd yn yr ysbyty am ddeufis first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleWELSH RUGBY LAUNCHES HUNT FOR NEW FACEMASK DESIGN
Next articleMan jailed for unprovoked attack that left victim in hospital for two months
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content