- Advertisement -
Home More News Local News Creision yn costio ffortiwn i un gweithiwr ym Mhorth Tywyn

Creision yn costio ffortiwn i un gweithiwr ym Mhorth Tywyn

0
70
- Advertisement -

Bu paced o greision yn gostus i un gweithiwr ffordd ym Mhorth Tywyn ar ôl iddo gael gorchymyn i dalu bron £200.

Roedd Jack Howells yn gosod tarmac ar ffordd pan oedd preswylydd wedi’i ddal ar gamera yn taflu’r paced gwag ar y llawr.

- Advertisement -

Cafodd y gŵr 24 oed o Heol Tyn y Bryn, yn Nhonyrefail, ddirwy o £100 gan ynadon Llanelli a chafodd orchymyn i dalu costau o £85 mewn erlyniad dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Clywodd y llys fod preswylydd, ddydd Llun, 8 Tachwedd y llynedd, wedi clywed synau y tu allan i’w heiddo a gweld gweithiwr ffordd yn taflu croen banana ar y llawr. Yna penderfynodd y preswylydd droi camera ei ffôn ymlaen i wneud fideo a dal Howells a oedd yn gosod tarmac yn gwagio gweddill y paced o greision i’w geg cyn ei daflu ar y llawr.

Yna trosglwyddwyd y dystiolaeth i dîm gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin a gysylltodd â Gwendraeth Valley Tarmac a oedd yn gallu adnabod Howells.

Cysylltodd y cyngor â Howells a chytunodd i dalu Hysbysiad Cosb Benodedig o fewn 14 diwrnod er mwyn osgoi mynd i’r llys.

Er gwaethaf iddo gytuno ar lafar a chael nodiadau atgoffa, methodd Howells â thalu a chafodd ei erlyn yn y llys ddydd Gwener diwethaf a chyfaddefodd i’r drosedd.

Cafodd orchymyn hefyd i dalu gordal dioddefwr o £34.

The post Creision yn costio ffortiwn i un gweithiwr ym Mhorth Tywyn first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleJane Dodds Requests Statement On GPs that Could Be Forced to Leave Wales
Next articleCrisps cost one Burry Port worker a packet
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content