- Advertisement -
Home More News Local News Galwad Am Wirfoddolwyr Cymunedol

Galwad Am Wirfoddolwyr Cymunedol

0
54
- Advertisement -

nl-logo

Mae cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd mewn ymateb i’r Coronafeirws.

Mae busnesau hefyd wedi helpu lle bynnag y gallant gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol yn ystod y cyfnod hwn.

- Advertisement -

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am wirfoddolwyr cymunedol ychwanegol i sicrhau bod cynifer o ddewisiadau â phosibl ar gael i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth.

Mae angen tair rôl allweddol ym mhob cymuned – cydgysylltydd lleol, hyrwyddwr digidol a gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn.

Byddai cydgysylltydd lleol yn bwynt cyswllt allweddol i bobl yn y gymuned honno sydd angen cymorth a chefnogaeth. Byddai angen iddo gydgysylltu’r cymorth hwnnw hefyd.

Byddai hyrwyddwr digidol yn bwynt cyswllt allweddol i bobl yn y gymuned honno sydd angen cymorth technegol. Byddai hefyd yn ofynnol i chi gysylltu â phobl nad ydynt ar-lein a rheoli cyfrifon ar eu rhan.

Byddai gwasanaeth cyfeillio ar gyfer yr henoed a phobl agored i niwed yn cynnwys sgwrsio â phobl neu eu ffonio.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae’r cymorth sydd ar gael eisoes yn ein cymunedau yn galonogol iawn. Mae pobl o bob cefndir wedi dod ynghyd i helpu ei gilydd drwy’r cyfnod eithriadol hwn. Er mwyn sicrhau bod cynifer o ddewisiadau â phosibl ar gael i’r rheini sydd angen cymorth, mae angen mwy o bobl i helpu felly cysylltwch â ni os gallwch gynnig awr neu ychydig oriau.    Bydd llawer o bobl yn teimlo’n unig ac wedi’u hynysu wrth i’r cyfyngiadau symud barhau a gall galwad ffôn neu gadw mewn cysylltiad drwy’r cyfryngau cymdeithasol wneud gwahaniaeth mawr.”

- Advertisement -
Previous articleTaliadau Uniongyrchol Prydau Ysgol Am Ddim – Coronafeirws
Next articleFree School Meals direct payments – coronavirus

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content