
Mae cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd mewn ymateb i’r Coronafeirws.
Mae busnesau hefyd wedi helpu lle bynnag y gallant gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am wirfoddolwyr cymunedol ychwanegol i sicrhau bod cynifer o ddewisiadau â phosibl ar gael i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth.
Mae angen tair rôl allweddol ym mhob cymuned – cydgysylltydd lleol, hyrwyddwr digidol a gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn.
Byddai cydgysylltydd lleol yn bwynt cyswllt allweddol i bobl yn y gymuned honno sydd angen cymorth a chefnogaeth. Byddai angen iddo gydgysylltu’r cymorth hwnnw hefyd.
Byddai hyrwyddwr digidol yn bwynt cyswllt allweddol i bobl yn y gymuned honno sydd angen cymorth technegol. Byddai hefyd yn ofynnol i chi gysylltu â phobl nad ydynt ar-lein a rheoli cyfrifon ar eu rhan.
Byddai gwasanaeth cyfeillio ar gyfer yr henoed a phobl agored i niwed yn cynnwys sgwrsio â phobl neu eu ffonio.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae’r cymorth sydd ar gael eisoes yn ein cymunedau yn galonogol iawn. Mae pobl o bob cefndir wedi dod ynghyd i helpu ei gilydd drwy’r cyfnod eithriadol hwn. Er mwyn sicrhau bod cynifer o ddewisiadau â phosibl ar gael i’r rheini sydd angen cymorth, mae angen mwy o bobl i helpu felly cysylltwch â ni os gallwch gynnig awr neu ychydig oriau. Bydd llawer o bobl yn teimlo’n unig ac wedi’u hynysu wrth i’r cyfyngiadau symud barhau a gall galwad ffôn neu gadw mewn cysylltiad drwy’r cyfryngau cymdeithasol wneud gwahaniaeth mawr.”












