- Advertisement -
Home Hywel Dda Anerchiad gan Maria Battle, Cadeirydd

Anerchiad gan Maria Battle, Cadeirydd

0
39
- Advertisement -

Gyda’r hydref ar drothwy’r drws a’r gaeaf yn gyflym agosáu rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar baratoi ar gyfer heriau’r gaeaf sydd o’n Blaenau ochr yn ochr â’n cymunedau, staff, gwirfoddolwyr, gofalwyr a phartneriaid.

Mae dyfodiad y pandemig COVID wedi ein gorfodi i ymddwyn yn wahanol, mewn ffyrdd y mae llawer ohonom yn dal i geisio dod i arfer â nhw. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn y bu’n rhaid i ni newid yn sylfaenol ein ffordd o fyw, gweithio, rhyngweithio a gofalu am eim gilydd.

Yn drasig iawn, mae cost ddynol wirioneddol y pandemig yn parhau ac mae llawer o deuluoedd wedi colli anwyliaid cyn eu hamser. Mae llawer o rai eraill wedi goroesi, ond mae’r daith o adfer yn parhau iddynt – ac i ni.

- Advertisement -

Mae pawb yn naturiol wedi blino. Mae’r afiechyd yn adfywio ac rydym unwaith eto ar drothwy clo cenedlaethol ledled Cymru i helpu i atal y firws rhag lledaenu ac i ganiatáu i’n gwasanaeth iechyd ofalu am y nifer cynyddol o bobl a fydd yn mynd yn ddifrifol wael. Bydd hyn yn cael effaith ar ein staff a’n cymunedau. Mae’n effeithio ar wasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol ar adeg o’r flwyddyn pan mae gwasanaethau yn aml dan bwysau eithafol.

Mae ein gweithlu wedi gweithio’n ddiflino i newid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau ac yn gofalu am bobl. Rydym wedi gweithio’n galed i weithredu’n rhagweithiol ers dyfodiad y pandemig.

Yn y don gyntaf fe wnaethom sefydlu Unedau Profi Cymunedol cyntaf Cymru, a chanolfan reoli leol i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad beirniadol i’n staff a’n partneriaid.

Fe wnaethom newid ein hamgylcheddau ysbyty, gofal sylfaenol a chymunedol i gadw at reoliadau newydd er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Ar yr un pryd, rydym wedi parhau i ddarparu gofal brys a gofal critigol mewn ffyrdd diogel lle bo’r angen fwyaf.

Rydym wedi dod i ben â chael a dosbarthu Offer Amddiffyn Personol mewn marchnad fyd-eang heriol iawn. Fe wnaethom gyflenwi ysbytai maes ac rydym wedi cadw llawer o’r sylfaen fwy o welyau mewn paratoad ar gyfer ail don.

Mae datrysiadau digidol mewn gofal sylfaenol ac eilaidd wedi bod ar waith i drawsnewid y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â’n cleifion ar y ffôn ac ar ddyfeisiau. Mae ein staff TGCh wedi dosbarthu dros 220 o lechi i helpu cleifion mewnol i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau tra bod cyfyngiadau ar ymweld. Mae ein swyddogion cyswllt teulu yn ceisio cynnal y cyswllt hanfodol hwnnw ag anwyliaid.

Mae ein meddygon teulu, clinigwyr ysbytai, comisiynwyr cartrefi gofal a staff sydd wedi’u hadleoli yn parhau i gefnogi preswylwyr a staff ein cartrefi gofal, gan gynnwys rhaglen brofi enfawr.

Rydym wedi cyfrannu at ymchwil a datblygu i drin COVID19 a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Bellach, mae gennym fwy o fynediad at brofion, gyda threfniadau gwell yn Aberystwyth a Llanelli. Mae capasiti lleol digonol i brofi, er gwaethaf rhai problemau gyda phorth y DU, ac rydym hefyd yn gweithio ar system fwy hybrid, i redeg ochr yn ochr â phorth y DU a fydd yn ein galluogi i gynnig mwy o brofion lleol i’n cymunedau.

Rydym wedi bod yn adeiladu ar ein strategaeth profi, olrhain, amddiffyn, trwy ein Cell Ymateb Rhanbarthol, ac rydym yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a phob un o’n partneriaid awdurdod lleol sy’n arwain y timau olrhain cyswllt lleol, gan ein helpu i ddod o hyd i glystyrau yn gynnar, a thorri cadwyni trosglwyddo. Mae dros 90% o’n cysylltiadau wedi cael eu holrhain yn llwyddiannus ac rydym yn diolch i chi i gyd am eich help parhaus wrth weithio gyda’n timau.

Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ailsefydlu gofal dewisol lle y gallwn wrth i ni fyw ochr yn ochr â COVID19 ac mae hyn wedi cychwyn yn ein hysbytai. I lawer o bobl dyma fu’r prif effaith y pandemig arnynt. Rydym yn bwriadu cysylltu â phob unigolyn yn unigol i egluro pam bod oedi, beth allan nhw ei wneud i hunanreoli eu cyflwr, beth allan nhw ei wneud petai nhw’n dirywio a phryd y gallan nhw ddisgwyl eu llawdriniaeth.

Rydym yn gwybod y bydd effaith hyn yn cael ei deimlo am flynyddoedd i ddod, ond rydym wedi ein syfrdanu gyda’r gefnogaeth i’n Gwasanaeth Iechyd yn Hywel Dda.

Ar hyn o bryd, mae’n bwysicach nag erioed i amddiffyn rhag salwch anadlol ac mae ein meddygon teulu, ein fferyllwyr a’n timau’n gweithio’n ddiflino i alluogi pobl yn y grwpiau blaenoriaeth i gael y brechiad ffliw yn ddiogel.

Yn nhon gyntaf y pandemig roedd rhai pobl yn ofni defnyddio gwasanaethau gofal iechyd. Mae ein timau atal a rheoli heintiau, ein staff gofal tŷ a’n holl weithlu yn gwneud ein hysbytai mor ddiogel â phosib. Rydym yma i chi os ydych chi ein hangen ni.

Weithiau mae’n anoddach, wrth i amser fynd yn ei flaen, i gofio cadw at y pethau sylfaenol a fydd yn ein cadw’n fwy diogel. Sef:

• Cadw pellter corfforol bob amser (dau fetr).
• Gwisgo mwgwd neu orchudd wyneb pan fyddwch chi mewn mannau cyhoeddus dan do fel siopau.
• Golchi dwylo yn rheolaidd. Mae glanweithydd dwylo yn wych pan rydych chi allan.
• Aros gartref a threfnu i gael prawf os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol: tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholli neu newid blas neu arogl

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ymdrechion Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ddiweddar trwy ein tynnu allan o ymyrraeth wedi’i thargedu. Mae hon yn deyrnged i’n holl staff a’u hymroddiad diflino a’u harbenigedd.

Daeth pob pandemig yn hanes y ddynoliaeth i ben. Bydd yr un hon yn dod i ben hefyd. Rydym yn barod am y gwaethaf ond yn gweithio i gael y canlyniadau gorau posib i’n poblogaeth. Gyda’n gilydd byddwn yn dod trwy’r gaeaf hwn yn gryfach nag erioed.

I bob un sydd wedi aberthu – diolch.

- Advertisement -
Previous articleAn address by Maria Battle, Chair
Next articleSLADE – December 2020 now been re-scheduled to December 2021
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content