- Advertisement -
Home Nerys Evans MS Penodi arbenigwr o Sir Gâr yn gadeirydd gweithgor strategaeth bwyd newydd 

Penodi arbenigwr o Sir Gâr yn gadeirydd gweithgor strategaeth bwyd newydd 

0
12
- Advertisement -

Mae Simon Wright, perchennog Wright’s Food Emporium yn Llanarthne sydd gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y sector lletygarwch a bwyd yng Nghymru, wedi cael ei benodi i gadeirio Gweithgor Arbenigol fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru. 

Cafodd y newyddion o gyhoeddiad y strategaeth a’r penodiad gan Llŷr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd wedi cael ei groesawu gan Nerys Evans, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin. 

Cylch gorchwyl y Gweithgor Arbenigol newydd fydd i ddarparu argymhellion ynghylch yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu system fwyd Cymru, yn cynghori ar sut i fesur llwyddiant, i ddatblygu cydweithrediad hirdymor rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach a’r diwydiant bwyd a diod. 

- Advertisement -

Y gobaith yw y bydd y strategaeth newydd yn newid y ffordd mae Cymru’n meddwl am y system fwyd gyfan o’r fferm i’r fforc. 

Dywedodd cadeirydd newydd y Gweithgor Arbenigol, Simon Wright:  

“Mae Cymru’n rhagori yn y maes bwyd a diod, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i dorri drwodd a sicrhau ein bod ni’n gwneud pethau’n iawn i’n diwydiant a’n gwlad. 

“Dw i’n croesawu uchelgais y Llywodraeth newydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau i’w gwireddu. 

Ychwanegodd Nerys Evans AS: 

“Mae ffermwyr yma yng Nghymru yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o’r ansawdd uchaf, ac mae hynny’n arbennig o wir yma yn Sir Gâr. 

“Mae sicrhau cynaliadwyedd y sector yn hollbwysig, wrth i ni gryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, gwella diogelwch bwyd, a rhoi gwell cymorth i’r rheiny sy’n cynhyrchu bwyd ac sy’n cynnal ein heconomi wledig, cymunedau cefn gwlad a’r iaith Gymraeg. Mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn edrych ar ddysgu ein plant am fwyd, coginio ac am y cyfoeth o fwyd lleol, iach sydd ar gael. 

“Rwyf yn falch iawn bod Simon Wright wedi cytuno i arwain y gwaith pwysig hwn, fel rhywun sy’n dod â degawdau o brofiad, mewnwelediad ac arbenigedd i sicrhau ein bod yn ystyried y system fwyd gyfan yn ein dull gweithredu.” 

Mae disgwyl i’r gweithgor gyflwyno ei argymhellion i weinidogion Llywodraeth Cymru’r flwyddyn nesaf. 

- Advertisement -
Previous articleCancer patient raises over £3,800 for NHS charity
Next articleCarmarthenshire expert appointed chair of new food strategy working group 
Emyr Evans
Emyr likes running when fit, and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The Llanelli Standard. All Emyr's thoughts are his own.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content