- Advertisement -
Home More News Health News Gofyn i roddwyr gwaed barhau i ddangos cefnogaeth yn ystod y cyfnod...

Gofyn i roddwyr gwaed barhau i ddangos cefnogaeth yn ystod y cyfnod atal byr

0
80
- Advertisement -

Mae teithio i roi gwaed yn cael ei ystyried yn “deithio hanfodol” o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru

- Advertisement -

Gofynnir i roddwyr gwaed ar draws Cymru ‘barhau i roi gwaed’ yn ystod y cyfnod atal byr ar draws Cymru i helpu Gwasanaeth Gwaed Cymru i gynnal stociau gwaed iach ar gyfer y GIG

Mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cyflwyno amserlen casglu gwaed newydd, lle cymerir rhoddion o tua phum canolfan rhoi gwaed rhanbarthol ar draws Cymru bob wythnos.

Mae’r canolfannau rhoi gwaed rhanbarthol mewn lleoliadau gwahanol bob wythnos, ac maen nhw wedi disodli’r hen fodel dros dro, oedd yn cynnwys cynnig sesiynau rhoi gwaed mewn tua 30 o leoliadau rhoi gwaed bob wythnos.

Mae lleihau nifer y lleoliadau sydd yn cael eu rhedeg wedi galluogi’r Gwasanaeth i ddiogelu ei raglen gasglu gwaed yn erbyn y posibilrwydd o sesiynau’n cael eu canslo oherwydd Covid-19 a phwysau staffio. Mae wedi caniatáu i leoliadau casglu gwaed gael eu haddasu’n llawn hefyd, i gydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol, ac maen nhw’n cael eu diheintio’n llwyr cyn, yn ystod ac ar ôl pob sesiwn.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Rydym eisiau i bob rhoddwr wybod bod teithio i leoliad rhoi gwaed drwy gydol y cyfnod atal byr ar draws Cymru, ac unrhyw gyfnod clo rhanbarthol wedyn sy’n cael ei weithredu, yn cael ei ystyried yn “deithio hanfodol” o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.

“Drwy gydol y pandemig, mae rhoddwyr wedi parhau i fynd hyd yn oed ymhellach allano’u ffordd nag y buasent yn mynd fel arfer i roi rhodd a allai achub bywydau, ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu cefnogaeth barhaus.

“Mae stociau gwaed yng Nghymru wedi aros yn iach drwy gydol y pandemig, diolch i ymrwymiad rhoddwyr newydd a rhai presennol, ond mae angen i bobl barhau i roi gwaed i sicrhau y gallwn barhau i ateb y galw mewn ysbytai yn ystod y misoedd nesaf.”

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dweud bod sesiynau casglu gwaed yn ddiogel. Mae ei staff wedi’u hyfforddi i reoli heintiau, ac mae’r sesiynau casglu gwaed wedi’u trefnu i ganiatáu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol diogel.

The post Gofyn i roddwyr gwaed barhau i ddangos cefnogaeth yn ystod y cyfnod atal byr first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleBlood donors asked to keep supporting during firebreak
Next articleAnnual Performance Assessment 2019/2020
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content