- Advertisement -
Home More News Local News Y fferyllfa yn gyntaf y Nadolig hwn

Y fferyllfa yn gyntaf y Nadolig hwn

0
54
- Advertisement -

Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, a chynnydd mewn achosion o Covid 19, mae pobl yn cael eu hannog i fod gall y gaeaf hwn trwy ymweld â’u fferyllydd lleol ar gyfer mân gyflyrau, yn hytrach na mynd at eu meddyg teulu neu’r adran damweiniau ac achosion brys.

O boen cefn i losg cylla i ddannodd, gall fferyllwyr ddarparu cyngor am ddim a thriniaeth ar gyfer ystod o gyflyrau cyffredin ar gyfer y teulu cyfan.

- Advertisement -

Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cwmpasu 27 o gyflyrau lle y gall fferyllydd asesu a rhoi meddyginiaeth am ddim, os yw’n addas, heb fod angen am bresgripsiwn. Mae’r gwasanaeth yn rhoi cyfle i gleifion ofyn am gyngor neu driniaeth gan fferyllfa gymunedol sy’n cymryd rhan, a hynny ar gyfer rhestr benodol o anhwylderau, yn hytrach na mynd at eu meddyg teulu.

Yn dilyn ymgynghoriad byr dros y ffôn neu mewn person, bydd y fferyllydd yn rhoi cyngor, yn cyflenwi meddyginiaeth oddi ar rhestr gan y GIG, neu, lle bo angen, yn atgyfeirio’r claf at ei feddyg teulu.

Dywedodd Richard Evans, fferyllydd cymunedol sy’n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin: “Mae fferyllwyr cymunedol wedi arfer cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser wedi argymell triniaethau priodol i’r claf, neu os oes angen, eu cyfeirio at Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol arall.

“Yn ystod y pandemig hwn, cyflenwi presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau eraill hefyd ar gael, fel y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, cyflenwi meddyginiaethau ar frys ac atal cenhedlu brys.

“Nawr, gall rhai o’r gwasanaethau hyn gael eu gwneud mewn ymgynghoriad dros y ffôn, â’r claf neu berthynas/gofalwr yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

“Cofiwch archebu unrhyw feddyginiaeth rheolaidd mewn da bryd cyn i chi redeg allan ohonynt.”

Yn ogystal â’r arbenigedd proffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, gall cleifion cymwys gael y brechlyn ffliw am ddim i’w diogelu nhw ac eraill y gaeaf hwn.

Gofynnwn i chi beidio mynd i fferyllfa os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref unrhyw symptomau COVID-19.

Am fanylion cyswllt ac oriau agor Nadolig a Blwyddyn Newydd eich fferyllfa leol, trowch at: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

The post Y fferyllfa yn gyntaf y Nadolig hwn first appeared on West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond.

- Advertisement -
Previous articleThink pharmacy first this festive season
Next articlePilot of COVID-19 vaccination roll-out begins in Hywel Dda University Health Board
Katrina Rowe
Katrina has volunteered with CETMA & Red Brand Media for many years and is the first point of call for uploading all articles sent into us. Katrina does not write any articles however if you notice that she is the author of this article, she has uploaded it on behalf of the original author.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here
Captcha verification failed!
CAPTCHA user score failed. Please contact us!
X
X
Skip to content