Mae Cefin Campbell, Nerys Evans ac Adam Price, Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin, wedi croesawu cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru dan arweinyddiaeth Plaid Cymru y bydd yn sefydlu gwasanaeth bws newydd o Gaerfyrddin i Fangor, a fydd yn dechrau yn nhymor yr hydref.
Dyma un o’r camau cyntaf yng ngweledigaeth y llywodraeth ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer ‘Rhwydwaith T’, ble fydd systemau trafnidiaeth cyhoeddus ar draws Cymru yn bodoli i gysylltu’r wlad yn well. Roedd y gwasanaeth hefyd yn addewid yng nghynllun Plaid Cymru ar gyfer eu 100 dydd cyntaf mewn llywodraeth.
Disgwylir bydd y gwasanaeth o Gaerfyrddin i Fangor, a fydd yn stopio yn Aberaeron, Aberystwyth, Machynlleth, Dolgellau, Porthmadog a Caernarfon ar y ffordd yn arbed dros awr ar y siwrne bresennol.
Daw’r siwrne ar gost o £2m ar gyfer y flwyddyn gyntaf, sy’n cynnwys gweithredu’r siwrne, system archebu sedd a hysbysebu’r daith.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin:
“Bydd y gwasanaeth bws newydd o Gaerfyrddin i Fangor yn ffordd bwysig y bydd y llywodraeth hon yn cryfhau cysylltiadau rhwng de a Gogledd Cymru a dod â chymunedau at ei gilydd.
“Mae gwasanaethau fel hyn yn hybiau i economi gorllewin Cymru, gyda thrafnidiaeth haws o’r de i’r gogledd yn hwyluso datblygiadau busnes, tyfu’r sector dwristaidd ac yn agor mwy o ddrysau ar gyfer swyddi ar draws y gorllewin. Mae gan Sir Gaerfyrddin lawer i’w gynnig – o gestyll hynafol Dyffryn Tywi i arfordir trawiadol Llanelli – rydym yn hyderus y bydd y gwasanaeth hwn yn cyflwyno cynulleidfa ehangach i rai o drysorau ein sir.
“Yn wahanol i’r llywodraeth flaenorol o dan y Blaid Lafur, ble doedd dim digon o fuddsoddiad yn ein cymunedau yng Ngorllewin Cymru, mae’r llywodraeth Plaid Cymru hon wrthi’n barod yn sicrhau bod digon o arian yn cael ei wario ar ein cymunedau yma. Mae’r gwasanaeth bws yma yn dyst i hyn.”
Mae’r cyllid ar gyfer y gwasanaeth newydd wedi’i gyhoeddi fel rhan o Gyllideb Ychwanegol Cyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026-27, fydd yn cael ei ddadlau a’i bleidleisio drosto yn y Senedd ar 14 Gorffennaf.














